Francesco a Chris yn caru Cig Oen Cymru

0
306

·        Datgelu’r cogydd teledu adnabyddus Francesco Mazzei fel ‘Cig-gennad’ 2022 wrth iddo ymweld â Sioe Frenhinol Cymru i lansio’r ymgyrch Cig Oen Cymru PGI flynyddol

·        Mae’r lansiad yn dilyn ymweliad diweddar â Chymru lle bu Francesco ar daith o amgylch fferm fynydd yng Nghymru ac ymuno â Chris ‘Flamebaster’ Roberts ar gyfer cyfres o ryseitiau blasus

·        Mae lansio’r ymgyrch yn cyd-fynd â’r adeg y mae Cig Oen Cymru ar ei fwyaf helaeth o’r haf hyd at fis Rhagfyr

Mae’r cogydd teledu adnabyddus, Francesco Mazzei, wedi’i enwi fel ‘Cig-gennad’ newydd ymgyrch Cig Oen Cymru PGI ar gyfer 2022.

Fel rhan o’i waith llysgenhadol, bu Francesco ar ymweliad arbennig iawn â Chymru yn ddiweddar, lle bu’n dyst i fywyd ar fferm fynydd yn Eryri a’r stori sydd y tu ôl i’r Cig Oen Cymru y mae’n ei goginio i’w gwsmeriaid yn Llundain.

Wedi’i eni a’i fagu yn Calabria, dechreuodd Francesco ei yrfa fwyd yn gynnar iawn pan fu’n gweithio yn gelateria ei ewythr o naw oed, ac ers hynny mae wedi gweithio mewn bwytai ledled y byd, gan gynnwys Rhufain, Bangkok a Llundain. Yn wyneb cyfarwydd ar y teledu trwy ei ymddangosiadau rheolaidd ar raglenni fel Saturday Kitchen, MasterChef a Hell’s Kitchen, ers 2015 mae wedi bod yn gogydd-berchennog ar Sartoria yn Mayfair, ynghyd â’i fwytai eraill yn Llundain, Radici a Fiume. Mae hefyd wedi cyhoeddi llyfr coginio sy’n arbenigo mewn coginio o dde’r Eidal.

Mae cogyddion yn dathlu Cig Oen Cymru ar draws y byd am ei hyblygrwydd a’i flas ffres, hyfryd. Wedi’i fagu ar laswellt yn ei amgylchedd naturiol unigryw, mae’n gwneud cynnyrch eithriadol ac yn gweddu i unrhyw achlysur.

Wrth siarad am pam ei fod yn dewis gweini Cig Oen Cymru yn ei fwytai, dywedodd Francesco:

“Rydw i wedi fy nghyfareddu gan Gig Oen Cymru, felly pan ges i’r cyfle i weld drosof fy hun sut mae ffermwyr Cymru yn gofalu am eu diadelloedd, beth mae’r ŵyn yn ei fwyta a ble maen nhw’n treulio’u diwrnod, mae wedi gwneud i mi ei werthfawrogi hyd yn oed yn fwy.

“Rydw i wrth fy modd yn coginio gyda Chig Oen Cymru oherwydd y blas ac mae’n arbennig o frau. Mae’n dda gwybod bod cynnyrch o’r safon hwn ar garreg fy nrws, ac mae’n stori wych i’w hadrodd i’m cwsmeriaid a’m cogyddion pan fyddaf yn fy mwyty yn Llundain.”

Yn ogystal â’r ymweliad â’r fferm, ymunodd Francesco hefyd â’r cogydd Cymreig campus, Chris ‘Flamebaster’ Roberts, a gafodd ddosbarth meistr mewn coginio Eidalaidd gyda thro Cymreig.

Gyda chynnyrch blasus, naturiol Cymru a bwyd digamsyniol yr Eidal, mae Francesco yn dod â’r ddwy rinwedd ynghyd â chyfres o bedair rysáit Cig Oen Cymru blasus y gall pobl eu coginio gartref yn hawdd. Gan ddangos ei hyblygrwydd, mae’r detholiad yn amrywio o involtini hafaidd wedi’u ffrio mewn padell ac ysgwydd wedi’i rhwygo a ysbrydolwyd gan fwyd stryd, i risotto coes wedi’i brwysio neu selsig gyda polenta a ffa cannellini Tysganaidd.

Wrth siarad am ei brofiad o goginio’r ryseitiau gyda Francesco, dywedodd Chris:

“Roedd yn wych gweld yn uniongyrchol sut y gall cogydd hynod brofiadol fel Francesco gael y gorau o flasau a thynerwch Cig Oen Cymru.

“Coginio syml, gwladaidd ond wedi’i wneud yn dda gan ddefnyddio cynhwysion o’r ansawdd gorau. Does dim angen gor-gymhlethu pethau ac roedd yn bleser treulio ychydig ddyddiau’n coginio gydag ef. Cyfuniad blasus o fwyd Eidalaidd Cymreig llawn enaid, ar ei orau.”

Mae’r bartneriaeth gyda Francesco yn ddechrau ar gyfres o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn wrth i Hybu Cig Cymru barhau i amlygu gwaith gwych ffermwyr Cymru a’u cynnyrch byd-enwog.

Yng Nghymru, mae’r mwyafrif llethol o ddefaid yn cael eu magu ar ei hadnoddau naturiol, fel glaswellt a dŵr glaw, ac mae 80% o’i ffermdir yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau, sy’n golygu mai magu da byw yw’r ffordd fwyaf effeithlon o droi tir ymylol yn fwyd o ansawdd uchel. Hefyd, mae glaswelltir ym mryniau Cymru yn dal carbon o’r atmosffer, gyda ffermwyr yn ei reoli trwy gyfuniad o arferion traddodiadol oesol ynghyd â dulliau mwy modern.

Ychwanegodd Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu’r Farchnad ar gyfer Hybu Cig Cymru: “Rydyn ni’n gwybod o’n gwaith blaenorol gyda Francesco ei fod yn angerddol dros Gig Oen Cymru ac rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gydag ef ar gyfer yr ymgyrch eleni.

“Fel y gallwch weld o’r pedair rysáit flasus y mae wedi’u creu ar ein cyfer, pan fydd cydrannau o ansawdd uchel fel Cig Oen Cymru a bwyd Eidalaidd yn dod at ei gilydd, mae’n bartneriaeth berffaith, a byddwn yn eich annog i ymweld â’n gwefan a rhoi cynnig ar ei brydau gartref.”

Gallwch ddilyn ryseitiau Francesco yn eatwelshlamb.com.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle