Busnesau lleol yn rhoi blas ar waith i ddisgyblion Aberystwyth

0
260
Chris Jones from Cambrian Training demonstrating the different cuts of pork

Ymunodd dau fusnes lleol â grŵp o fyfyrwyr o Aberystwyth i gynnal gweithdai i arddangos eu rolau a’r sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant.

Gyda chymorth Gyrfa Cymru, rhoddodd Hybu Cig Cymru, Rachel’s Organic, a Hyfforddiant Cambrian gymorth i Ysgol Penglais drwy ddarparu gweithdai sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r cwricwlwm yn ogystal ag Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith, sy’n rhan orfodol o’r cwricwlwm.

Dysgodd y myfyrwyr, sy’n astudio TGAU bwyd a maeth, am y sgiliau sydd eu hangen i goginio a pharatoi bwydydd penodol, o ble y daw bwyd, gwyddoniaeth bwyd a nwyddau bwyd.

Rhoddodd Hybu Cig Cymru, sy’n hyrwyddo ac yn marchnata cig Cymru, bosteri, cyhoeddiadau ac adnoddau addysgol am gig Cymru i’r ysgol eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Soniodd Hyfforddiant Cambrian am ei sefydliad, y sgiliau sydd eu hangen i fod yn gigydd a’r hyn y mae’r swydd yn ei olygu. Rhoddodd Chris Jones o Hyfforddiant Cambrian gyflwyniad byw ar sut i dorri gwahanol ddarnau o borc a sut y mae blas pob un yn newid ar ôl eu coginio.

Cafwyd cyflwyniad ar gynhyrchu iogwrt a rôl meithriniad cychwynnol gan Jo Tett a’i chydweithiwr o’r cwmni cynnyrch llaeth organig, Rachel’s Organic. Cymerodd y myfyrwyr ran hefyd mewn sesiwn blasu iogwrt a chynnyrch llaeth eraill.

Meddai Jason Retter, athro bwyd a maeth yn Ysgol Penglais: “Roedd yn hyfryd gweld busnesau llwyddiannus lleol yn neilltuo amser o’u diwrnod gwaith prysur i gyflwyno i’r dosbarth ac i hyrwyddo’r diwydiant mewn ffyrdd sy’n ennyn cymaint o ddiddordeb.

“Roedd y gweithdai yn ymwneud yn uniongyrchol â’r cwricwlwm, yn ogystal â bod yn llawn hwyl a gwybodaeth ddiddorol. Fe wnaeth y myfyrwyr fwynhau pob eiliad.”

Ychwanegodd Rebecca Flanagan, cynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru: “Mae athrawon Ysgol Penglais wir yn croesawu addysg a phrofiadau byd gwaith fel ffordd o gefnogi’r cwricwlwm newydd i Gymru. Dim ond un enghraifft yw hon o sut y gall ysgolion sefydlu addysg a phrofiadau byd gwaith fel rhan o gwricwlwm yr ysgol er mwyn helpu myfyrwyr i allu deall y gwahanol sgiliau sydd eu hangen mewn amrywiaeth o wahanol swyddi a diwydiannau, na fyddant o bosibl wedi’u hystyried fel arall.”

Mae Gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith yn thema orfodol a thrawsbynciol o fewn y Cwricwlwm i Gymru i ddysgwyr rhwng tair ac 16 oed.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall ysgolion a lleoliadau sefydlu ymgorffori addysg a phrofiad byd gwaith, ewch i wefan Gyrfa Cymru or contact timcwricwlwm@gyrfacymru.llyw.cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle