YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL

0
330

Mae’n ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol cenedlaethol eleni heddiw.

Diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel ‘ymddygiad gan berson sy’n achosi, neu’n debygol o achosi, aflonyddwch, braw neu drallod i berson sydd ddim yn yr un cartref â’r person’.

Mae ein Dirprwy Prif Gwnstabl Claire Parmenter yn Arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer Plismona Bro.

“Mae’n dda gennyf gefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol eleni. Mae ein timoedd plismona bro’n chwarae rôl hollbwysig o ran atal a rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yr ydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a rhoi cymorth i ddioddefwyr. Cewch adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol di-argyfwng yn hawdd ac yn gyflym ar-lein drwy ein gwefan https://orlo.uk/WocsD, drwy ebostio 101@dyfed-powys.police.uk neu trwy alw 101.”

Bydd ein timoedd lleol yn postio manylion am eu gweithgareddau drwy gydol yr wythnos ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol lleol – dewch o hyd i’ch cyfrifon lleol ar y rhestr gyfleus yma https://orlo.uk/QR5mV

Am wybodaeth pellach a chyngor am ymddygiad gwrthgymdeithasol ewch i https://orlo.uk/Mr7du

Mae gennym hefyd Gydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol i’r llu, Jessica Thomas welir yn y llun yma gyda Dirprwy Prif Gwnstabl Parmenter.

#WythnosYmwybyddiaethASB


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle