Elusen yn ariannu prosiectau llesiant ar gyfer staff Hywel Dda

0
264
Arts in Health Picture – drawing class: Artist Bull Taylor-Beales from People Speak Up took a drawing class at the Hywel Dda University Health Board Annual Nursing Conference

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn ariannu chwe phrosiect mawr i gefnogi iechyd a llesiant y 12,000 a mwy o staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n gweithio ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae hyn wedi bod yn bosibl diolch i grant o £242,000 gan Apêl Frys COVID-19 NHS Charities Together sydd wedi codi dros £130 miliwn i helpu gydag effaith y pandemig ar staff y GIG trwy garedigrwydd y cyhoedd ar draws y DU.

Mae’r prosiectau’n darparu ystod o gyfleoedd a chefnogaeth gan gynnwys encilion ecotherapi, Hyrwyddwyr Llesiant, cymorth a hyfforddiant profedigaeth, mannau gorffwys staff, cronfa dysgu gydol oes a gweithgareddau celfyddydol ym maes Iechyd a llesiant.

Mae mwy na 2,700 o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro eisoes wedi elwa o’r prosiectau.

Eco Retreat picture: The first Ecotherpay retreat was held at Scolton Woods South, a private woodland near Haverfordwest

Mae un encil ecotherapi i staff eisoes wedi’i gynnal, gyda phedwar arall wedi’u cynllunio ar gyfer 2022 a phump ar gyfer 2023.

Mae’r encilion wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer staff Hywel Dda ac wedi’u hanelu at y rheiny sy’n profi straen mawr ac mewn risg o gor-flino. Mae encilion ecotherapi yn rhoi cyfle i arafu a myfyrio a phrofi adferiad ym myd natur, ac mae staff wedi sôn am iachau ac yn ystyried byd natur fel cyfaill.

Mae dros 130 aelod o staff wedi cofrestru i fod yn Hyrwyddwyr Llesiant ac mae 65 eisoes wedi cyflawni’r rhaglen gyflwyno. Y nod yw cael 100 o hyrwyddwyr mewn lle erbyn mis Medi eleni, gan hyrwyddo Iechyd a llesiant yn y gweithle.

Mae’r mentrau lleol y mae’r hyrwyddwyr wedi’u datblgu hyd yn hyn yn cynnwys dosbarthiadau Tai Chi amser cinio, llyfrgelloedd llesiant ar wardiau a rhaglenni sy’n cefnogi hydradiad, ymarfer corff ac ymlacio.

Mae dau Hyfforddwr Arbenigol i Gefnogi Staff ar Brofedigaeth wedi’u penodi i rannu swydd i ddarparu addysg i staff ar farwolaeth, marw a phrofedigaeth. Maent wedi sefydlu prosiect cefnogi a hyfforddi ar brofedigaeth, gan weithio gydag uwch dimau nyrsio a rheolwyr gweithredol.

Bereavement support picture: Pictured are Julie Brennan, Bereavement Support Services Manager (left) and Katie Barrett, Senior Co-ordinator Bereavement Support Services (right) with the specialist trainers working on the project – Amanda Cardell and Sandra Edwards

Mae gweithdai’n cael eu cynnal ar gyfer staff gan ganolbwyntio ar alar, colled a phrofedigaeth, gan gynnwys effeithiau gweithio drwy’r pandemig a hunanofal. Mae’r cyfranogwyr hyd yma wedi cynnwys uwch nyrsys, nyrsys staff, swyddogion cyswllt teulu, gweithwyr cymorth gofal iechyd, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion. Maen nhw wedi adrodd bod y gweithdai wedi bod o fudd enfawr wrth gefnogi cleifion a theuluoedd gyda symptomau galar.

Bydd y cyllid grant hefyd yn galluogi creu mannau gorffwys newydd i staff yn ogystal â gwneud gwelliannau i ardaloedd gorffwys presennol, yn dilyn ymgysylltu â staff. Bydd y mannau gorffwys dan do ac awyr agored hyn yn galluogi staff ar draws y bwrdd iechyd i elwa o awyr iach ac amser ymlacio yn ogystal ag amgylchedd mwy cyfforddus ar gyfer egwyl.

Mae’r Gronfa Dysgu Gydol Oes hefyd wedi’i lansio, sy’n cynnig cyfle i staff wneud cais am gyllid i ddysgu sgiliau newydd i’w helpu i wella ar ôl y profiad pandemig.

Mae gweithgareddau celfyddydau mewn iechyd a llesiant hefyd yn cael eu darparu ar gyfer staff. Mae Cydlynwyr Celfyddydau mewn Iechyd Hywel Dda wedi treialu rhaglen o weithgareddau creadigol, gan gynnwys perfformiadau cerddoriaeth fyw, sesiynau ysgrifennu creadigol, gweithgareddau canu ar-lein a digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol.

Lifelong learning fund picture: Jess Cox who took part in a jewellery-making workshop

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr Y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol y bwrdd iechyd: “Fe wnaethom ymgynghori â staff i ddeall eu profiadau o weithio yn ystod y pandemig ac, wrth ddeall yr effaith enfawr a gafodd y pandemig ar lesiant ein staff, roeddem am fuddsoddi mewn rhaglenni a mentrau a ddarparodd fecanweithiau ar gyfer myfyrio ac adferiad.

“Gweithiodd rhai o’n staff mewn amgylchiadau hynod heriol ac rydym wedi gallu buddsoddi mewn rhaglenni a fydd i gyd yn helpu i gefnogi llesiant ein staff yn y gwaith. Rydym mor ddiolchgar am y cyfle i ddarparu’r cyfleusterau a’r rhaglenni hyn y mae mawr eu hangen ar gyfer staff Hywel Dda. Wrth gefnogi llesiant ein staff gallwn barhau i gefnogi ein cleifion a’r cyhoedd hyd eithaf ein gallu.”

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf y bwrdd iechyd: “Yn ystod y pandemig, mae ein staff wedi mynd yr ail gam ac wedi gweithio i sicrhau bod gofal priodol 24/7 wedi bod ar gael i ddiwallu anghenion cleifion ar draws ein tair sir.

“Rydym mor falch o’n staff ac un o’n blaenoriaethau nawr yw cefnogi eu gorffwys, eu hadferiad ac adfer eu llesiant. Mae’r chwe phrosiect newydd hyn i gefnogi llesiant ac adferiad staff yn y tymor hwy wedi cael derbyniad da gan ein timau ac rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth NHS Charities Together a’r cyhoedd trwy eu rhoddion.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle