STORI TOMOS

0
240

Bu cadw plant yn ddiogel ar ffermydd yn her wastadol, ac y mae’n bwnc fu’n destun dadl a thrafod cyhyd ag y bu Wythnos Diogelwch Ffermydd ar waith.

Petai’r teulu mewn busnes fel meddygaeth neu adeiladu, ni fyddai yna fawr o siawns i blentyn ddefnyddio sgalpel neu osod to. Ond ar fferm y teulu, mae plant mor ifanc â 10 oed yn gyrru beiciau cwad a thractorau ac yn gwneud gwaith sy’n rhan o fywyd gwledig. Ond yr hyn na ddylai fod yn rhan o fywyd gwledig yw rhoi plant mewn perygl wrth weithio o gwmpas y fferm.

Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion rhieni i gadw eu plant yn ddiogel, mae damweiniau yn digwydd, gyda digwyddiadau trasig a sydyn yn esgor ar ganlyniadau enbyd a phellgyrhaeddol.

Un teulu sy’n defnyddio eu profiad torcalonnus eu hunain i erfyn am ddiogelwch yw’r teulu Bunford o Rondda Cynon Taf. Cawsant air yn unig â Gohebydd Materion Gwledig Newyddion ITV, Hannah Thomas ym mis Mawrth am yr hyn a ddigwyddodd ar 6 Medi 2021, pryd y newidiwyd eu bywydau am byth, a pham eu bod yn awr yn gweithio gyda’r Sefydliad Diogelwch Ffermydd i geisio atal hyn rhag digwydd i deulu arall yn y dyfodol.

Bore fel unrhyw un arall oedd hi i’r teulu Bunford, a diwrnod olaf gwyliau’r haf i Tomos oed dyn naw oed, cyn cychwyn y tymor academaidd newydd yng Nghwm Cynon. Un o dasgau cyntaf y dydd oedd cludo dŵr i’r gwartheg oedd yn pori ar dir ger Blaenllechau – rhywbeth y bu’r teulu’n wneud gyda’i gilydd lawer gwaith.

Cychwynnodd y tad Rhys, Louise y fam, y mab hynaf Gethin, Tomos a Clemmie y baban yn y tryc pic-yp gyda’r bowser dŵr yn y cefn. Ond cyn gynted ag y daethant i’r cae, dyma sylweddoli bod rhywbeth o’i le – roeddent yn gallu teimlo’r tryc a’r bowser yn llithro i lawr y cae.

“Roedden ni’n clywed y panig yn lleisiau’r plant” meddai Louise wrth Hannah yn yr adroddiad. “Roedden nhw’n gofyn i ni beth ddylen nhw wneud.”

“Fe benderfynais y dylem oll fynd allan “ meddai Rhys. “Petai’r tryc wedi mynd dros y dibyn ar waelod y cae, fe allasen ni i gyd fod wedi ein lladd.” 

Neidiodd y teulu allan o’r cerbyd, gyda Louise yn llwyddo i wthio Tomos yn rhydd o’r drysau a phasio’r baban Clemmie at ei brawd mawr, Gethin. Ond pan edrychodd Rhys o’i gwmpas, gwelodd fod y bowser dŵr yn anelu i gyfeiriad Tomos, ac fe gafodd ei daro.

Wedi’r gwrthdrawiad, rhedodd Louise am help tra gwnaeth Rhys CPR ar eu mab. Daliodd ati nes i’r gwasanaethau brys gyrraedd ac fe fuon nhw yn parhau â’r driniaeth am ddwyawr, ond gwaetha’r modd, roedd hi’n rhy hwyr.

“Roedden ni’n gwneud tasg y buom yn ei gwneud fel rhan o’n trefn ers blynyddoedd ” meddai Rhys. “Dim byd allan o’r cyffredin. Doedd yr amodau yn y cae ddim yn wahanol, roedd lefel y dŵr yn y bowser yr un fath, ac fe basiodd y cerbydau y gwiriadau wedi’r ddamwain. Ond da chi, rydym eisiau i’r gymuned ffermio ddysgu o’r ffaith i ni golli Tomos, ac aros i feddwl. Allwch chi ddim bod yn rhy ofalus. Holwch eich hun beth yw’r risg sy’n codi o unrhyw dasg.”

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae 1 neu 2 o blant ar gyfartaledd yn colli eu bywydau ar ffermydd ym Mhrydain. Gall ffermydd fod yn llefydd peryglus i bawb, ond y mae plant mewn mwy o berygl, wrth chwarae, ymweld neu helpu o gwmpas y fferm.

Does dim amheuaeth eu bod yn llefydd hyfryd i blant dyfu, ac y mae llawer o blant yn awyddus i helpu eu rhieni ar y fferm; er hynny, mae’n bwysig deall fod i bob tasg ar y fferm ryw lefel o risg.

Fel y dywed Rhys: “Aseswch bob sefyllfa yn gyntaf. Does yr un gwaith yn werth y loes o orfod claddu plentyn.”

Dyna pam y mae’r teulu Bunford yn ymuno gyda’r Sefydliad Diogelwch Ffermydd a Phartneriaeth Diogelwch Ffermydd Cymru i ddwyn plant mewn ysgolion cynradd gwledig ledled Cymru i mewn i gyfleu’r neges am ddiogelwch ar ffermydd i’w rhieni mewn cystadleuaeth newydd addysgiadol a chreadigol.

Dros yr wythnosau nesaf, anfonir gwahoddiadau i bob ysgol gynradd wledig i gael y disgyblion i greu a darlunio rhai negeseuon syml am ddiogelwch – beth yw’r risgiau, a sut i’w hosgoi.

Fel y dywed rheolwr Sefydliad Diogelwch Ffermydd Stephanie Berkeley: “Mae plant yn gweld pethau mor glir, mewn ffordd nad yw oedolion yn gwneud, sy’n golygu bod y syniad o’u cael hwy i greu calendr diogelwch yn un mor ysbrydoledig.”

“Mae’r neges yn syml, ond mae myrdd o bosibiliadau i blant fod yn greadigol. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr hyn sy’n dod i mewn i’r gystadleuaeth. Fel ffordd o ddiolch am gymryd rhan, byddwn yn rhoi i bob plentyn ysgol sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth gopi o’r calendr terfynol y gallant arddangos yn eu cartrefi, i roi proc i’r cof i’r teulu cyfan i osgoi niwed ar y fferm bob dydd.”

Bydd y gystadleuaeth gaiff ei lansio heddiw ar faes y Sioe Frenhinol yn agored i bob plentyn o oedran cynradd yng Nghymru. Bydd panel o feirniaid yn cwrdd ac yn dewis eu hoff 12 o’r gystadleuaeth. Bydd y rhain wedyn yn ymddangos fel un o’r misoedd ar y cynllunydd teulu am 2023.

Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg o 5 Medi 2022 ac yn cau ar 26 Hydref 2022. Am fwy o wybodaeth, ac i weld y telerau a’r amodau, ewch at www.yellowwellies.org.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle