Cabinet yn amlinellu ‘gweledigaeth’ gyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer Sir Gaerfyrddin

0
181
Cyngor Sir Gar Cabinet

Gofynnir i drigolion a busnesau Sir Gaerfyrddin helpu i lunio ‘gweledigaeth’ Cabinet y cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Amlinellodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor, weledigaeth gyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer y sir sy’n adlewyrchu’r materion a’r themâu allweddol a nodwyd ers yr etholiadau ym mis Mai.

Mae’r Cynghorydd Price wedi gwneud nifer o newidiadau i bortffolios y Cabinet mewn ymateb i ddigwyddiadau lleol a byd-eang. Am y tro cyntaf, mae’n cynnwys portffolio penodol ar gyfer newid hinsawdd i ganolbwyntio ar uchelgais y cyngor i fod yn garbon sero net erbyn 2030 ac ysgogi’r uchelgais hwnnw, ac aelod arweiniol dros drechu tlodi.

Dywedodd y Cynghorydd Price, er ein bod bellach yn y cam adfer yn dilyn pandemig COVID-19, ni allai’r Cabinet anwybyddu ei effaith ar gymunedau.

“Ynghyd â’r argyfwng costau byw presennol, rydym yn gwybod ei fod yn gyfnod anodd ac mae pethau’n debygol o waethygu cyn iddynt wella,” meddai. “Rydym wedi ymrwymo i ddeall anghenion lleol a gweithio gyda phartneriaid i’w diwallu.”

Yn ogystal â mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a thlodi, mae datganiad gweledigaeth y Cabinet hefyd yn cynnwys cryfhau’r economi a chynyddu llewyrch, a buddsoddi mewn tai, addysg, diwylliant, seilwaith a’r amgylchedd i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Dywedodd y Cynghorydd Price: “Rwy’n llawn cyffro am y rhaglen a’n hymrwymiadau, yn enwedig o ran trechu tlodi, mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, adfywio canol trefi, darparu cartrefi o safon, mynd i’r afael â materion capasiti ac ailgydbwyso’r sector gofal, a darparu gwasanaethau addysg o safon ar draws y sir, ymhlith pethau eraill.

“Dyma ein man cychwyn fel Cabinet o ran y cyfeiriad a’r math o feysydd yr ydym am ganolbwyntio arnynt dros y pum mlynedd nesaf. Dyma beth sy’n bwysig i ni, y materion pwysig iawn y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw.

“Ond nid ein barn ni yn unig sy’n bwysig, ac rydym yn awyddus i wrando ar nifer o leisiau, mae hynny wrth gwrs yn cynnwys trigolion Sir Gaerfyrddin sy’n gwbl ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.”

Mae trigolion yn cael eu hannog i rannu eu barn drwy’r arolwg trigolion, a fydd, ynghyd ag adborth gan staff, a gwaith ymgysylltu ag aelodau lleol ar draws pob grŵp gwleidyddol, yn helpu i ddatblygu’r strategaeth gorfforaethol a gyhoeddir yn yr hydref ac a fydd yn nodi amcanion strategol y cyngor dros y pum mlynedd nesaf.

I gymryd rhan yn yr arolwg trigolion, ewch i’r tudalennau ymgynghori ar wefan y cyngor sirgar.llyw.cymru/ymgynghori cyn 5 Awst.  


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle