Camau Llywodraeth Cymru yn datrys y bygythiad i gyflenwad pŵer Parc Ynni Baglan

0
241
  • Roedd cwsmeriaid Parc Ynni Baglan yn wynebu colli eu cyflenwad trydan pan gafodd cwmni rhwydwaith gwifrau preifat ei ddiddymu’n orfodol.
  • Lansiodd Llywodraeth Cymru gamau cyfreithiol i atal Derbynnydd Swyddogol Llywodraeth y DU rhag diffodd y cyflenwad pŵer a buddsoddi dros £4m i adeiladu rhwydweithiau trydan newydd.
  • Mae ymyrraeth yn diogelu busnesau a fyddai wedi cael eu heffeithio gan golli pŵer, a allai beryglu hyd at 1,200 o swyddi lleol, a’r amgylchedd lleol oherwydd y perygl o lifogydd.

Mae busnesau a sefydliadau eraill mewn parc ynni yng Nghastell-nedd Port Talbot a oedd yn wynebu colli eu cyflenwad trydan ar ôl i rwydwaith pŵer preifat gael ei ddiddymu yn cael eu cysylltu’n llwyddiannus â grid pŵer sydd newydd ei osod yn dilyn ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.

Gwnaeth Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething ymweld â Pharc Ynni Baglan i gwrdd â busnesau sydd wedi wynebu mwy na blwyddyn o ansicrwydd ynghylch eu cyflenwad ynni.

Yn flaenorol, roedd busnesau ar Barc Ynni Baglan yn cael eu cyflenwad trydan drwy rwydwaith gwifrau preifat o orsaf bŵer nwy ar y safle. Ym mis Mawrth 2021, cafodd y cwmni a oedd yn berchen ar y rhwydwaith gwifrau preifat ei ddiddymu’n orfodol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle