Y Cyngor yn ailddatgan ei ymrwymiad i gymuned y lluoedd arfog

0
204

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ailddatgan ei ymrwymiad parhaus i gymuned y lluoedd arfog i sicrhau bod y rheiny sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.

Mae Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Philip Hughes, wedi addo cefnogaeth barhaus y Cyngor trwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ochr yn ochr â’r Is-gomander Andrew Davies RN mewn seremoni arbennig ym Mharc y Scarlets.

Mae’r Cyfamod yn canolbwyntio ar helpu aelodau o gymuned y lluoedd arfog i gael yr un mynediad i wasanaethau a chynhyrchion, gan gynnwys rhai’r llywodraeth a rhai masnachol, ag unrhyw ddinesydd arall. Mae’n cefnogi personél y lluoedd arfog, y rheiny sy’n gadael y lluoedd arfog, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a’u teuluoedd.

Mae cymuned y lluoedd arfog yn cynrychioli tua 12% o’r boblogaeth, sydd o gwmpas 23,000 o bobl yn Sir Gaerfyrddin. 

Llofnododd y Cyngor y ‘Cyfamod Cymunedol’ gydag ystod o bartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn 2013.

Dywedodd y Cynghorydd Hughes: “Mae llofnodi’r Cyfamod yn dangos cefnogaeth y Cyngor i gymuned y lluoedd arfog, a faint yr ydym yn gwerthfawrogi’r cyfraniad a’r aberth y maent wedi’i wneud, yn ogystal â’r rôl bwysig y maent yn ei chwarae yn ein cymunedau.

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y lluoedd arfog a’u teuluoedd yn cael eu trin â thegwch a pharch ym mhob rhan o’u bywyd.”

Roedd llofnodi’r Cyfamod yn rhan o ffair swyddi a drefnwyd gan y Cyngor yn benodol ar gyfer cymuned y lluoedd arfog ac roedd yn cynnwys ystod o dros 40 o gyflogwyr yn arddangos eu cyfleoedd am waith.

Ychwanegodd y Cynghorydd Hughes: “Roedd hwn yn ddigwyddiad ardderchog, roedd yn wych gweld cymaint o sefydliadau lleol yn gobeithio elwa o recriwtio aelodau hynod fedrus, dibynadwy a hyblyg o gymuned y lluoedd arfog, a hyrwyddo cyfleoedd iddynt ail-hyfforddi ac adeiladu ar y sgiliau a’r profiad y maent wedi’u hennill drwy eu gyrfa gyda’r lluoedd arfog.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle