DIWRNOD AGORED FFERM ARDDANGOS CEFNGWILGY FAWR: Ffocws ar borthiant a rheoli llyngyr

0
178
Edward and Kate Jones Cefngwilgy with lambs

Ymunwch â Cyswllt Ffermio a’r teulu Jones yn fferm Cefngwilgy Fawr, lle byddwch yn clywed mwy am gyfleoedd i dorri costau a gwella perfformiad da byw.

Hefyd yn ymuno yn ystod y digwyddiad bydd Chris Duller, arbenigwr glaswelltir annibynnol, a fydd yn trafod sut i fynd ati i gyllidebu porthiant a chyfleoedd i leihau y defnydd o wrtaith artiffisial drwy gynyddu cyfradd o feillion a Eurion Thomas, Techion, bydd yn trafod rheoli parasitiaid yn effeithiol a goresgyn ymwrthedd anthelmintig.

Hefyd, cewch glywed mwy o wybodaeth am y prosiect Stoc+ sy’n hybu rheolaeth ragweithiol o ran iechyd diadelloedd a buchesi gan Hybu Cig Cymru a derbyn diweddariad gan PROSOIL, menter ymchwil a arweinir gan ffermwyr i ddiogelu pridd a gwneud y defnydd gorau o faetholion ar ffermydd da byw

Mae Cefngwilgy Fawr yn rhan o rwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio, yn canolbwyntio ar sicrhau gwell dealltwriaeth o’n priddoedd a’n silwair a lleihau faint o fwydydd sy’n cael ei brynu a cofnodi perfformaid, yn defnyddio technoleg i ganfod pa anifeiliaid sy’n perfformio orau.

Mae Safle Arddangos Cefngwilgy Fawr yn ddaliad mynydd 200-hectar (ha) sy’n cael ei ffermio gan Edward a Kate Jones a thad Edward, Gareth. Mae’r fferm yn cael ei phori gan fuches o 50 o wartheg sugno, a diadell o 1000 o ddefaid. Mae’r fferm yn codi o 700 troedfedd i 1100 o droedfeddi yn ei man uchaf.

I archebu eich lle ar gyfer y digwyddiad hwn, cofrestrwch isod erbyn 11yb ar 28/07/22, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â lisa.roberts@menterabusnes.co.uk / 07399 849148.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle