Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi darparu ffabrig i wneud bagiau golchi dillad a sgwariau bondio ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Glangwili.
Dywedodd Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Louise Hughes: “Mae’r bagiau golchi dillad yn helpu rhieni i fod yn rhan o ofal eu babi ac mae’r sgwariau ffabrig yn helpu gyda’r bondio rhwng y fam a’r babi.
“Mae’r bagiau golchi dillad yn cael eu gosod ar ddiwedd crud pob babi, gan ddarparu lle i
storio dillad budr, yn barod i’w cludo adref i gael eu golchi.
“Mae’r bagiau golchi dillad a’r sgwariau’n cael eu gwneud ar ein cyfer gan fam un o’n haelodau staff, a hoffem ddiolch am ei charedigrwydd a’i hamser yn gwneud y rhain.”
Ychwanegodd Louise: “Mae rhieni’n dweud wrthym eu bod nhw’n gweld y bagiau’n ddefnyddiol iawn ac maen nhw wedi dweud eu bod yn edrych yn gartrefol, sy’n braf gweld pan fyddwch chi’n eistedd mewn ardal glinigol, ac mae’r sgwariau bondio yn eu helpu i deimlo’n gysylltiedig â’u babi.”
Elusennau Iechyd Hywel Dda yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle