Mae Ivor Godsmark wedi rhoi swm gwych o £4,000 i Ward 3 yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg i ddiolch am y gofal ardderchog a gafodd yno.
Treuliodd Ivor Godsmark bum wythnos ar yr Uned Asesu Eiddilwch a rhoddodd yr arian i ddiolch am y gwasanaeth a’r gofal gwych a gafodd ar y ward.
Dywedodd Lisa Marshall, Uwch Brif Nyrs yn Uned Asesu Eiddilwch Ward 3: “Mae Ivor wedi bod yn bleser pur i ofalu amdano, mae’n belydryn o heulwen. Mae Ivor mewn côr meibion ac mae wedi cadw ysbryd y staff a’r cleifion yn uchel drwy ganu i ni bob dydd.
“Ni allwn ddiolch digon iddo am ei rodd hynod hael, bydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r cleifion ar y ward. Mae Ivor yn ddyn arbennig a bydd yr holl staff ar Ward 3 yn gweld ei eisiau pan fydd yn cael ei ryddhau.”
Dywedodd Katie Hancock, swyddog codi arian: “Ar ran pawb yn yr elusen, rydym am ddiolch yn fawr iawn i Mr Godsmark am y rhodd hynod hael. Bydd o fudd i gleifion, eu teuluoedd a staff ar Ward 3.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle