Gwobrau Baner Werdd i rai o barciau a llecynnau glas mwyaf adnabyddus Castell-nedd Port Talbot

0
716
Margam Park

Mae Cadw Cymru’n Daclus wedi datgelu pwy sydd wedi ennill y Gwobrau Baner Werdd pwysig eleni – sef y nod safon rhyngwladol i barciau a llecynnau glas.

Mae cyfanswm o 265 parc a llecyn glas ledled y wlad wedi derbyn gwobr Baner Werdd o bwys, a Gwobr Baner Werdd Gymunedol – o barciau gwledig a gerddi ffurfiol i randiroedd, coedlannau a mynwentydd.

Yng Nghastell-nedd Port Talbot, bydd Baneri Gwyrdd bellach yn cyhwfan dros Barc Gwledig Margam, Parc Gwledig Ystâd Gnoll, Gerddi Victoria a Pharc Coffa Talbot i gydnabod eu cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, eu safonau amgylcheddol uchel a’u hymrwymiad i ddarparu llecynnau glas o ansawdd ardderchog.

Ac mae Gwobrau Baner Werdd Gymunedol, y meincnod ar gyfer parciau neu lecynnau glas a reolir gan y gymuned, wedi’u rhoi yng Nghastell-nedd Port Talbot i: Clwb Trotian Dyffryn Aman, Tyfwyr Cymunedol Cilybebyll, Parc Glan-yr-afon Pontardawe, Cyfeillion Gwaith Haearn Mynachlog Nedd, Gardd Gymunedol y Lane, Melincryddan a Gerddi Parc Natur Vivian, Port Talbot.

Yn ôl y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant: “Llongyfarchiadau i holl staff ein parciau, y mae’u gwaith caled wedi cael ei gydnabod, yn hollol gywir; hoffwn hefyd longyfarch yr holl wirfoddolwyr ymroddedig ar ennill eu Gwobrau Cymunedol, sy’n llwyr haeddiannol.

“Mae ein parciau a’n llecynnau glas yn hanfodol ar gyfer llesiant meddyliol a chorfforol – maen nhw’n gwneud llefydd yn neisiach i fyw ynddyn nhw, mae’u coed yn helpu gydag ansawdd awyr ac yn creu cynefinoedd i fywyd gwyllt, ac maen nhw’n rhoi mynediad hwylus i natur i bobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol.”

Darperir rhaglen y Faner Werdd yng Nghymru gan Cadw Cymru’n Daclus, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y safleoedd a ymgeisiodd eu beirniadu gan arbenigwyr llecynnau glas annibynnol yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chynnwys y gymuned.

Meddai Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd, Julie James: “Mae ein llecynnau glas lleol wedi cael rhan hanfodol yn y gwaith o’n cysylltu â byd natur. Mae’r gwobrau hyn yn dyst fod parciau Cymru ac ardaloedd tebyg yn gwneud gwaith ardderchog wrth ddarparu lleoliadau o ansawdd i ymlacio a mwynhau ynddyn nhw,

“Mae’r safon y mae angen ei gyrraedd i ennill Baner Werdd yn uchel iawn, felly hoffwn longyfarch pob un o’r safleoedd sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth am ddarparu cyfleusterau rhagorol, gydol y flwyddyn, i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

Gellir gweld rhestr lawn o enillwyr y wobr ar wefan Cadw Cymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle