Parc Gwledig Margam yn croesawu newydd-ddyfodiaid i Lwybr y Fferm

0
715
Alpacas

Mae Llwybr Fferm Parc Gwledig Margam wedi cael ychwanegiad newydd sbon, a’r amseru’n berffaith ar gyfer gwyliau’r haf.

Dau fabi alpaca, a elwir yn ‘cria’, fydd y cyntaf o’u bath i ddod i dir hanesyddol Parc Gwledig Margam. Mae ‘Corlan Alpaca’ wedi cael ei pharatoi ar Lwybr y Fferm, ac mae Tîm Ystadau’r Parc wedi derbyn hyfforddiant llawn i’w paratoi ar gyfer y newydd-ddyfodiaid.

Daeth yr Alpacas o Fferm Penrhallt ar arfordir gogleddol Penrhyn Gŵr. Mae’r fferm deuluol wedi cytuno i fenthyca mamau’r alpacas, a modryb iddynt, am ychydig fisoedd hefyd, er mwyn galluogi i’r babis ymgartrefu’n llyfn ac mewn ffordd sy’n garedig iddyn nhw. Bydd y tri oedolyn alpaca’n dychwelyd i Fferm Penrhallt tua diwedd y flwyddyn, ar ôl i’r ieuenctid ymgartrefu yn eu cartref newydd. Yn ystod y cyfnod hwn bydd trydydd alpaca babi’n ymuno â’r praidd hefyd.

Mae Alpacas yn anifeiliaid tawel ac ymlonyddol, gyda natur fwyn a phersonoliaeth garedig. Maen nhw’n meddu ar reddf breiddio gref, felly mae’n hanfodol eu bod nhw’n byw gydag o leiaf ddau Alpaca arall. Mae’u cnu’n hypo-alergenaidd, ac yn llawer mwy meddal na gwlân defaid.

Bydd modd i ymwelwyr â’r parc, sydd wedi ennill Baner Werdd, weld moch Cymreig, peunod, geifr pygmy, Gwartheg Morgannwg, asynnod, merlen Shetland a llawer iawn mwy ar hyd Llwybr y Fferm. 

Mae Parc Gwledig Margam, a leolir mewn 850 erw o barcdir, yn cynnig harddwch naturiol, hanes, bywyd gwyllt a dewis o weithgareddau llawn hwyl, cyfleusterau a digwyddiadau, sy’n peri mai dyma un o gyrchfannau ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle