Mae Rheolwr Gwylfa Diogelwch Rhag Tan yn y Cartref Sir Benfro, sydd newydd gael ei benodi, yn annog pawb i archebu eu Gwiriad Diogelwch Rhag tan yn y Cartref, sydd ar gael yn RHAD AC AM DDIM.

0
1320

Yn ddiweddar, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi penodi Rob Makepeace i rôl Rheolwr Gwylfa yn Nhîm Diogelwch Cymunedol Sir Benfro.

Ac yntau ag 21 mlynedd o brofiad o fod yn ddiffoddwr tân, mae Rob wrth ei fodd yn cael y cyfle i helpu trigolion Sir Benfro i wneud eu cartrefi’n fwy diogel a lleihau’r risg o danau.

Mae’r Gwiriadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref, sydd hefyd yn cael eu galw’n Ymweliadau Diogel ac Iach, yn effeithiol ar gyfer lleihau’r risg o dân yn y cartref, diogelu eiddo, atal pobl rhag baglu a chwympo, meithrin ymwybyddiaeth pobl o sgamiau, a mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae hwn yn wasanaeth y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ei ddarparu YN RHAD AC AM DDIM.

Ewch ati heddiw i archebu Gwiriad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref/Ymweliad Diogel ac Iach rhad ac am ddim ar eich cyfer chi a’ch teulu, perthynas oedrannus neu aelod bregus o’ch cymuned.

Ac yntau’n awyddus i ddechrau ar y gwaith o wneud cartrefi pobl yn fwy diogel, dywedodd y Rheolwr Gwylfa Rob Makepeace, “A minnau wedi gweld y dinistr y gall tân ei achosi i gartref, rwy’n frwd iawn dros helpu pobl i amddiffyn y pethau sydd fwyaf annwyl iddynt.

Gallwch archebu Gwiriad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref ar eich cyfer eich hun, aelod o’ch teulu neu rywun yn eich cymuned yr ydych yn gwybod a hoffai gael ein cymorth, a hynny trwy ffonio 0800 169 1234 neu fynd i https://www.mawwfire.gov.uk/eng/your-safety/in-your-home/safe-and-well-visit/.

Er ein bod yng nghanol tywydd poeth, bydd llawer ohonom yn meddwl am y gost gynyddol o wresogi ein cartrefi yn ystod misoedd y gaeaf, ac efallai y bydd rhai pobl yn rhoi ystyriaeth i ffyrdd eraill o gadw’n gynnes. Mynnwch gyngor gan ein Tîm Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref i sicrhau eich bod yn gwresogi eich cartref mewn modd diogel a chyfrifol. 

Rydym am helpu pobl i deimlo’n ddiogel gartref, a hynny trwy roi cyngor ar ddiogelwch yn y cartref, meithrin ymwybyddiaeth o sgamwyr posibl, a mynd i’r afael â phroblem unigrwydd ac arwahanrwydd.

Wrth ymweld â’ch cartref, gallwn eich sicrhau y bydd ein staff yn cadw at yr holl ganllawiau diogelwch COVID-19 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru”.

I gael rhagor o gyngor ar ddiogelwch rhag tân yn y cartref neu i archebu Gwiriad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref/Ymweliad Diogel ac Iach, ffoniwch y Gwasanaeth Tân ac Achub ar 0800 169 1234 neu ewch i https://www.tancgc.gov.uk/cym/diogelwch/yn-y-cartref/ymweliadau-diogel-ac-iach/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle