Mae rheolwr cwmni glanhau sydd wedi ymddeol, Ray Tunsich, yn trefnu diwrnod golff a raffl ar gyfer Apêl Cemo Bronglais er cof am ei wraig Jan.
Mae Ray eisoes wedi codi mwy na £3,000 i’r Apêl drwy dudalen codi arian sy’n dal ar agor: https://www.justgiving.com/fundraising/jan-tunsich.
Nawr mae ef a’i deulu yn trefnu diwrnod golff ar 9 Awst i’w gynnal yn ystod yr Wythnos Agored yng Nghlwb Golff Penrhos yn Llanrhystud – ac yn apelio am wobrau raffl.
Dywedodd Ray: “Aeth Jan i weld meddyg â phoen cefn ym mis Hydref y llynedd ac, ar ôl
sgan, cawsom y newyddion dinistriol bod ganddi ganser terfynol y goden fustl. Bu farw ddiwedd mis Mawrth eleni, yn 75 oed, gyda’i theulu o’i chwmpas.
“Yn ei brwydr ddewr yn erbyn canser, derbyniodd Jan gefnogaeth aruthrol gan yr oncolegydd ysbrydoledig Dr Elin Jones a’r tîm gwych yn yr uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais, a nyrsys ardal Aberaeron.
“Dymuniad clir Jan oedd i’w ffrindiau a’i theulu gefnogi’r Apêl am y £500,000 olaf sydd ei angen i agor uned cemotherapi newydd. Bydd yr uned newydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth.”
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi codi dros £3,000 hyd yn hyn trwy ein tudalen codi arian ac yn gobeithio rhoi hwb i hyn yn y diwrnod golff. Bydd bwcedi casglu ar gyfer yr Apêl a raffl gyda’r nos,” ychwanegodd Ray, 76, sydd ei hun wedi cael y cwbl glir ar ôl cael canser y brostad.
Os hoffai unrhyw un gyfrannu gwobr raffl, cysylltwch â Ray, sydd â chaban ym Mhenrhos, ar 07896 073596. I ddarganfod mwy am yr Apêl ewch i: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/hywel-dda-health-charities/hywel-dda-health-charities/bronglais-chemo-appeal/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle