Tanau Gwyllt a Rhagolygon yr Hinsawdd ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru

0
552

Roedd Rhagolygon Hinsawdd y DU 2018 yn dangos y bydd tywydd sy’n addas ar gyfer tanau gwyllt yn cynyddu, ac y bydd tymor y tanau gwyllt yn ymestyn; gyda’r potensial y bydd gaeafau cynhesach a gwlypach yn cynyddu llwyth y tanwydd, ac y bydd hafau hirach a sychach yn cynyddu’r risg o dân. Awgrymwyd hefyd y gallai’r haf fod yn fwy peryglus na’r gwanwyn o ran tanau gwyllt erbyn diwedd y ganrif.

Rydym ni yn y Gwasanaeth bob amser yn edrych i’r dyfodol ac yn cynllunio ar gyfer y tymor hirach. Mae modelau o’r newid yn yr hinsawdd yn cael eu hystyried fel y gallwn bennu’r effaith ar y gymuned a’r amgylchedd, gan sicrhau bod gennym yr adnoddau iawn ar waith ar yr adeg iawn, a chan gynnal diogelwch y diffoddwyr tân wrth i ni ymateb i danau gwyllt. Rydym hefyd yn gweithio gyda rheolwyr tir, megis porwyr, ffermwyr, fforestwyr a’n Parciau Cenedlaethol i roi ystyriaeth i ddulliau o reoli llystyfiant, ac yn gwneud trefniadau i atal tanau gwyllt rhag lledaenu a gwaethygu. Caiff hyn ei drefnu a’i gyflawni trwy ddull cydweithredol fel y gallwn wella bioamrywiaeth, cynnal diogelwch, a helpu ein cefn gwlad i ffynnu ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Yn achos tanau gwyllt, rydym yn gweld gostyngiad graddol o flwyddyn i flwyddyn, gydag amrywiadau yn dibynnu ar y tywydd a ffactorau allanol, er enghraifft newidiadau i’r lefelau pori, ac ati. Caiff tanau gwyllt eu hasesu gan y Swyddog â gofal wrth ymateb i ddigwyddiadau, a hynny er mwyn darganfod yr achos mwyaf tebygol – yn gyffredinol, mae’r tanau’n ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol neu losgi heb reolaeth (boed hynny’n fwriadol neu’n ddamweiniol). Un peth y gallwn ei ddweud yw bod y mwyafrif helaeth o’r tanau hyn yn cael eu hachosi gan bobl mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Rydym o’r farn bod tanau sy’n cynnau o ganlyniad i ffactorau naturiol, megis trawiad gan fellten, yn brin iawn. Mae hyn yn golygu bod Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal ein hymrwymiad i ymgysylltu â phob un o’n cymunedau i dynnu sylw at effaith tanau gwyllt, boed hynny trwy ysgolion a gwasanaethau ieuenctid, neu drwy gymunedau a sefydliadau amaethyddol lle rydym yn blaenoriaethu ‘gweithio gyda’n gilydd’.  

Dywedodd Richie Vaughan-Williams, y Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol:

“Mae cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol iawn, ac rydym yn gweld canlyniadau cadarnhaol a gostyngiad sylweddol yn nifer y tanau mwy ar hyd a lled Cymru eleni. Fodd bynnag, mae tanau gwyllt yn dal i fod yn uchel ar yr agenda, ac, os daw rhagolygon yr hinsawdd yn wir, byddwn yn newid ein dull o ddelio â thanau gwyllt gan y byddant, o bosibl, yn peri risg wahanol – rydym eisoes wedi dechrau cynllunio i baratoi ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am y modd y gallwch helpu i gadw eich cymuned yn ddiogel a lleihau’r risg o danau gwyllt neu danau damweiniol, ewch i’n gwefan https://www.tancgc.gov.uk/cym/newyddion/o-dan-sylw/dawnsglaw/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle