Teulu yn codi dros £4,000 at elusen er cof am eu merch.

0
371

Mae Serah a Jamie Barnes, o’r Tymbl, wedi codi £4,284 i Elusennau Iechyd Hywel Dda er cof cariadus am eu merch, Molly.

Ym mis Ionawr 2019, yn anffodus, ganwyd merch Serah a Jamie, Molly, yn farw-anedig. Derbyniodd Serah a Jamie ofal anhygoel gan y tîm Bydwreigiaeth Profedigaeth yn Ysbyty Glangwili yn ystod y cyfnod anodd hwn. Roedd y tîm yn darparu gofal cyson, bob awr o’r dydd, hyd yn oed ar ôl i’w sifftiau ddod i ben.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae Serah a Jamie wedi bod yn codi arian ar gyfer y tîm Bydwreigiaeth Profedigaeth trwy amrywiaeth o weithgareddau fel marathon dartiau 24 awr.

Dywedodd Serah: “Rwyf wedi sefydlu cronfa elusen er cof am Molly i ddweud diolch enfawr i’r holl dîm bydwreigiaeth profedigaeth. Ni allaf ddiolch digon iddynt. Fel mam Molly, roeddwn i eisiau rhoi yn ôl a chadw ei chof yn fyw.

“Yr unig beth sy’n fy nghadw i fynd trwy’r torcalon yma yw’r codi arian. Rwy’n gobeithio y gall y tîm Bydwreigiaeth Profedigaeth brynu mwy o offer fel y gall helpu teuluoedd eraill sy’n anffodus yn mynd trwy golled ofnadwy fel y gwnaethom ni fel teulu.

“Hoffwn hefyd ddiolch i bawb sydd wedi fy helpu i godi’r £4284.00 dros y tair blynedd diwethaf, mae eich cymorth a’ch cefnogaeth wedi bod yn anhygoel.”

Dywedodd Heulwen Harden, Bydwraig Arweiniol Profedigaeth: “Hoffem estyn ein gwerthfawrogiad twymgalon am y rhodd hael i goffau eich merch brydferth, Molly. Rhannwyd eich caredigrwydd ar draws y Gwasanaeth Mamolaeth gyda’r holl staff fel cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad o’ch cefnogaeth fel rhieni Molly.

“Bydd eich rhodd yn helpu i ddarparu rhagor o gymorth profedigaeth ac adnoddau i deuluoedd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle