FFERMWYR IFANC YN CAEL EU PRISIO ALLAN O’R FARCHNAD DIR GAN Y LLYWODRAETH

0
220
Mabon ap Gwynfor AS

Mae Plaid Cymru yn datgelu bod Llywodraeth Cymru wedi prynu tir amaethyddol ar gyfer plannu coed – gan wthio ffermwyr lleol allan yn y broses

Mae gwybodaeth a ddaeth i law llefarydd Plaid Cymru dros amaethyddiaeth a materion gwledig, Mabon ap Gwynfor AS, yn datgelu bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn prynu tir pori amaethyddol o’r radd flaenaf ar gyfer ei rhaglen plannu coed, cam sydd wedi cythruddo ffermwyr lleol.

Roedd un ffermwr ifanc, sy’n helpu ar fferm leol, yn gobeithio prynu tir yn Tyn Mynydd ar Ynys Môn er mwyn gwireddu ei freuddwydion o ddechrau ei fferm ei hun. Fodd bynnag, canfu’n ddiweddarach fod y cais wedi’i selio a gyflwynodd – a oedd dros y gwerth cyfartalog am dir amaethyddol ar yr ynys – wedi cael ei guro gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr ap Gwynfor fod “gwthio newydd-ddyfodiaid allan, tra hefyd yn gwthio gwerth tir fferm i fyny” yn “anamddiffynadwy“.

Wrth gael ei herio gan Blaid Cymru, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw “wedi gweld hynny” ac y bydden nhw’n “hoffi gweld y dystiolaeth bod CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru) yn rhwystro ffermwyr ifanc o bethau.”

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros amaethyddiaeth a materion gwledig, Mabon ap Gwynfor AS,

“Mae tir Cymru ar bremiwm ac mae angen defnyddio’r holl dir amaethyddol da i gynhyrchu bwyd. Serch hynny mae gennym brawf bod Llywodraeth Cymru wedi prynu nid yn unig un darn o dir, ond 380 erw o dir pori amaethyddol at ddibenion plannu coed yn unig.

“Mae plannu coed yn rhan bwysig o’n cynlluniau i gyrraedd sero net carbon, ond rhaid iddi fod y goeden gywir yn y lle cywir am y rheswm cywir, ac nid defnyddio tir amaethyddol o’r radd flaenaf ar gyfer cynhyrchu pren yw’r rheswm cywir.

“Mae Ynys Môn yn adnabyddus drwy gydol hanes fel mam Cymru – Môn Mam Cymru – am ei bod yn bwydo Cymru, gyda thir da ar gyfer tyfu cnydau. Tan yn ddiweddar iawn, defnyddiwyd y tir hwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i brynu ar gyfer plannu coed – fel rhan o’u Dathliadau Jiwbilî ‘Queen’s Canopy’ – ar gyfer tyfu haidd.

“Cyflenwad cyfyngedig o dir sydd ar gyfer tyfu cnydau yng Nghymru, ac felly mae clywed bod y Llywodraeth yn plannu coed ar dir amaethyddol o safon ac yn gwthio newydd-ddyfodiaid allan, tra hefyd yn gwthio gwerth tir fferm i fyny y tu hwnt i gyrraedd ffermwyr lleol, yn anamddiffynadwy.

“Mae camau eisoes wedi cael eu cymryd i roi’r hawl i bawb fyw yn y lle maen nhw’n ei alw’n gartref, ond mae amddifadu pobl o’u ffordd o fyw i yn mynd yn groes i’r graen.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle