Bydd gweithdy newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i reoli ffrwythlondeb mewn diadelloedd defaid

0
266
Mae'r milfeddygon Richard Kemp (canol), Mo Kemp (i'r chwith) a Kris Henry (i'r dde) o Calcoed Vets, Treffynnon, yn un o'r timau cymeradwy sy'n cynnal gweithdai hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid 'rheoli ffrwythlondeb y ddiadell' i Cyswllt Ffermio.

Mae Cyswllt Ffermio wedi ychwanegu modiwl ychwanegol at ei ddarpariaeth o weithdai hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid (AH&W) sydd wedi’u hariannu’n llawn.

Bydd ‘Rheoli ffrwythlondeb y ddiadell’ yn cael ei gyflwyno ledled Cymru’r haf hwn, gan ddod â chyfanswm y pynciau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd i 18.

Gyda holl gynnwys cwrs AH&W Cyswllt Ffermio wedi’i ddatblygu ar y cyd â NADIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Genedlaethol ar gyfer Clefyd mewn Anifeiliaid) a’i gyflwyno gan bractisau milfeddygol sy’n cymryd rhan ledled Cymru, bydd y gweithdai rhyngweithiol ar gael naill ai ar ffurf gweithdai grŵp wyneb yn wyneb yn rhanbarthol (a fydd yn para hyd at dair awr), neu ar-lein.

Esbonia Richard Kemp o Calcoed Vets yn Nhreffynnon, un o’r practisau a fydd yn darparu’r hyfforddiant, mai nod y modiwl newydd hwn yw helpu pob ffermwr defaid i wella a chynnal perfformiad a chynhyrchiant anifeiliaid.

“Bydd pwyslais cryf yn cael ei roi ar atal clefydau ac ymwybyddiaeth ohonynt, gan gynnwys prynu i mewn a phrotocolau cwarantin.

“Byddwn hefyd yn edrych ar bwysigrwydd cadw cofnodion i asesu perfformiad mamogiaid, hyrddod ac ŵyn, ac i helpu gyda phenderfyniadau rheoli,” meddai Mr Kemp.

Bydd mynychwyr yn dysgu sut i adnabod a rheoli’r holl faterion allweddol sy’n effeithio ar ffrwythlondeb, gan gynnwys clefydau heintus, rheoli parasitiaid, ffactorau amgylcheddol a maeth, gyda chynllunio iechyd, bioddiogelwch a defnydd cyfrifol o wrthfiotigau ac anthelmintigau hefyd yn rhan annatod o bob gweithdy.

“Rydym am i ffermwyr ddeall y goblygiadau economaidd difrifol yn ymwneud â bridio a ffrwythlondeb, o ran canrannau ŵyna, ac yn y pen draw, yr ŵyn a gaiff eu gwerthu.

“Hoffem weld mwy o ffermwyr yn asesu hyrddod chwech i wyth wythnos cyn hyrdda, er mwyn nodi problemau ffrwythlondeb posib.”

“Dylai sgôr cyflwr corff mamogiaid fod yn ffactor mewn penderfyniadau diddyfnu er mwyn peidio â pheryglu ffrwythlondeb y mamogiaid y tymor canlynol,” meddai Mr Kemp.

Bydd y gweithdy hefyd yn rhoi sylw i bwysigrwydd rheolaeth dda ac effeithiol cyn hyrdda ar gyfer mamogiaid a hyrddod. Byddai hyn yn cynnwys polisi difa llym ar gyfer mamogiaid, iechyd hyrddod a gwiriadau ffrwythlondeb ymhell cyn y tymor hyrdda, triniaethau angenrheidiol, a deall y camau gweithredu sy’n effeithio ar ffrwythlondeb.

I ddarganfod pa bractisau milfeddygol fydd yn darparu’r modiwlau hyfforddiant AH&W hyn ac ar gyfer lleoliadau a dyddiadau, ewch i’r adran sgiliau a hyfforddiant ar  https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu lleol.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle