Agor prosiect ailddefnyddio Eto yn swyddogol yn Nant-y-caws

0
277
Nant03 min scaled
Nant03 min scaled

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin a CWM Environmental Ltd wedi agor Canolfan Eto yn swyddogol, pentref ailddefnyddio newydd sbon yn Nant-y-caws sy’n ceisio helpu i leihau gwastraff yn Sir Gaerfyrddin a rhoi bywyd newydd i eitemau diangen.

Mae Canolfan Eto yn cynnig profiad siopa cynaliadwy i gwsmeriaid sydd am brynu amrywiaeth eang o eitemau, gan gynnwys dodrefn, beiciau, paent, eitemau garddio a llawer mwy.

Cyn hir, bydd canolfan addysg yn cynnal sesiynau i ddisgyblion ysgol sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau amgylcheddol gan gynnwys; pwysigrwydd ailgylchu, beth sy’n digwydd i wastraff mewn canolfannau ailgylchu, sut mae pryfed peillio yn ein helpu a sut i gefnogi economi gylchol yn Sir Gaerfyrddin.

Meddai’r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: “Mae agor Canolfan Eto yn Nant-y-caws yn gam cyffrous wrth ehangu prosiect Eto ynghyd â thwf cynaliadwyedd yn Sir Gaerfyrddin.”

“Gyda gweithdy atgyweirio ar y safle i drawsnewid eitemau sy’n cael eu rhoi, mae’r prosiect yn ceisio trwsio ac ailddefnyddio eitemau i’w cadw mewn defnydd cyhyd â phosib.”

Meddai’r Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: “Bydd Canolfan Eto yn rhoi cyfleoedd i breswylwyr ac ymwelwyr brynu amrywiaeth eang o eitemau a roddwyd, sydd wedi’u hatgyweirio a’u hailddefnyddio gan y prosiect; gan helpu i leihau nifer yr eitemau sy’n mynd i mewn i’r ffrwd wastraff.”

Mae prosiect Eto hefyd yn cynnwys siop yn Stryd Stepney, canol tref Llanelli, a agorwyd yn 2021.

Mae mannau rhoi eitemau ar gael ym mhob un o ganolfannau ailgylchu gwastraff cartref Sir Gaerfyrddin, lle gall preswylwyr roi eitemau i’r prosiect.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Eto yn Nant-y-caws, ewch i Sirgar.llyw.cymru/ailgylchu

Mae enw Eto yn symboleiddio prif uchelgais economi gylchol. Bydd Canolfan Eto yn annog ymwelwyr i brynu a rhoi eitemau a ddefnyddiwyd yn flaenorol yn hytrach na phrynu eitemau newydd pryd bynnag sy’n bosib. Bydd y prosiect hefyd yn helpu i gyflawni uchelgais Sir Gaerfyrddin i sicrhau economi gylchol ledled y sir yn ogystal â bod ar y blaen o ran ailgylchu ac ailddefnyddio yng Nghymru.

Mae economi gylchol yn canolbwyntio ar ddileu gwastraff drwy leihau’r defnydd o eitemau sy’n cael eu taflu a throi deunyddiau a fyddai wedi cael eu taflu o’r blaen yn adnoddau gwerthfawr. 

Mae’r prosiect hwn wedi cael ei ariannu drwy gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru. 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here