Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn derbyn gwobr yn yr Eisteddfod

0
255
Llun:Ganghellor Prifysgol Aberytwyth Elizabeth Treasure gyda Nyrs Eiddilwch Clwstwr De Ceredigion Sarah Pask

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn falch o fod wedi ennill gwobr Cyflogwr Cymraeg yn y gweithle gan Brifysgol Aberystwyth heddiw (Dydd Mawrth Awst 2022)

Derbyniodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda’r wobr i gyflogwyr am Gymraeg yn y Gweithle am ymdrechion ei staff i ddysgu’r iaith.

Fel rhan o ymdrechion y Bwrdd i annog pawb i ddefnyddio’r Gymraeg, maen nhw wedi datblygu’r brand ‘Rho Gynnig Arni’ a chyfres o adnoddau er mwyn cynorthwyo staff a dysgwyr i gyfathrebu yn yr iaith yn y gweithle. 

Jane Westlake yw un o’r 150 aelod o’u staff sydd wedi elwa o’r gwersi. Mae Jane yn gweithio mewn canolfan frechu, a dywedodd:“Pan dwi’n gweithio yn y Ganolfan Frechu, mae’r cleifion yn dod i mewn i adeilad anarferol ac maen nhw’n ofnus achos COVID.  Mae’n well i mi siarad â nhw’n eu mamiaith i drio eu helpu nhw i ymlacio a theimlo’n ddiogel.”

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r Bwrdd Iechyd yn hynod o falch i dderbyn y wobr hon heddiw. Mae cefnogi ein dysgwyr yn un o’r nodau o fewn ein Polisi Sgiliau Dwyieithog, wrth i ni geisio cynyddu’r nifer o staff sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg gyda’n defnyddwyr gwasanaeth ac ar yr un pryd, cyfrannu at nod strategol Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr.”

Wrth longyfarch pawb ar eu llwyddiant, dywedodd Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Llongyfarchion mawr iawn i bawb ar eich llwyddiant wrth ddysgu Cymraeg. Hoffwn i ddiolch i bawb am wneud yr ymdrech honno, ac am fod mor frwdfrydig eich ymdrechion. Mae iaith unigryw Cymru yn drysor cenedlaethol arbennig, ac yn rhodd i bawb sydd yn byw yma.

“Rydym ni hefyd yn arbennig o ddiolchgar i’r tiwtoriaid sydd wedi helpu cynifer o ddysgwyr ar hyd y blynyddoedd. Diolch iddyn nhw i gyd am eu gwaith rhagorol, ac i bawb yn y tîm Dysgu Cymraeg.”

Mae Adran Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn darparu cyrsiau ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr, gyda darpariaeth benodol i ddysgu Cymraeg yn y gweithle ac i deuluoedd.Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy fynd i: https://dysgucymraeg.cymru/amdanom-ni/darparwyr-cyrsiau/prifysgol-aberystwyth/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle