Cyflwyno ‘Y FAN’ – Gwasanaeth symudol newydd Ceredigion

0
1084

Yn dilyn llawer o waith y tu ôl i’r llenni a gwaith paratoi gan Wasanaethau Ieuenctid a Chymunedol Ceredigion yn ystod y misoedd diwethaf, rydym yn falch o gyhoeddi’r seremoni agoriadol swyddogol ar gyfer ‘Y FAN’.

Agorwyd ‘Y FAN’ yn swyddogol yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Nhregaron ym Mhentref Ceredigion ar 03 Awst 2022, gyda diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae Gavin Witte, Cydlynydd Gwaith Ieuenctid ac Atal Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion yn egluro mwy am y prosiect: “Prosiect cydweithredol a arweinir gan bobl ifanc ac a ariennir gan Gronfa’r Loteri Genedlaethol yw ‘Y FAN’, a’i nod yw cynnig darpariaeth symudol i bentrefi, trefi ac ardaloedd gwledig anghysbell yng Ngheredigion. Y nod yw darparu rhaglenni a gweithgareddau pwrpasol i ymgysylltu â phobl ifanc, yn enwedig y rheini sy’n ddifreintiedig, sy’n agored i niwed ac sydd angen cymorth.

“Yn syml iawn, Vauxhall Movano wedi’i addasu yw ‘Y FAN’, sydd wedi cael ei adnewyddu’n sylweddol. Mae’r cefn wedi cael ei addasu i gynnwys lifft hygyrch, mannau eistedd cyfforddus, teledu sgrin lydan, consol gemau a Wi-Fi sy’n galluogi pobl ifanc i brofi holl nodweddion a phrofiadau clwb ieuenctid nodweddiadol.”

Mae’r tu allan i’r cerbyd yn llachar ac yn drawiadol ac yn cynnwys llawer o dirnodau adnabyddus Ceredigion, i gyd wedi’u dylunio a’u paentio gan bobl ifanc – ynghyd â’r enw ei hun. Defnyddiwyd ‘Y FAN’ fel enw anffurfiol gan y bobl ifanc a oedd yn ymwneud â’r prosiect, a phenderfynwyd rhoi’r teitl hwnnw iddo’n swyddogol er mwyn ei gadw’n syml, ond yn gofiadwy. 

Y Cynghorydd Alun Williams yw Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet ar gyfer gwasanaethau Gydol Oes a Lles. Dywedodd: “Mae’n wych gweld y prosiect hwn yn datblygu ac yn dechrau ymgysylltu â llawer o wahanol gymunedau yng Ngheredigion. Mae’n hanfodol ein bod yn gallu cyrraedd y rhai sydd â’r angen mwyaf am gymorth ac, wrth gwrs, darparu dull rhagweithiol o ddod â chynlluniau newydd i gymunedau i helpu unigolion i gysylltu â’i gilydd. Bydd y cerbyd hwn yn sicr yn cael ei groesawu’n fawr a bydd yn allweddol wrth ddarparu dull gydol oes o feithrin cydnerthedd cymunedol a lles.”

I gael rhagor o wybodaeth neu i gael gwybod pa gyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i’n tudalennau ar Facebook, Instagram a Twitter ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar PorthCymorthCynnar@ceredigion.gov.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle