DIWRNOD AGORED GLANMYNYS: RHEOLI DIADELL A PHORTHIANT

0
274

Ymunwch â Cyswllt Ffermio ar Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio – Glanmynys, i glywed sgyrsiau yn canolbwyntio ar reoli diadell a phorthiant.

Hefyd yn ymuno bydd Lesley Stubbings, ymgynghorydd defaid, a bydd yn trafod pwysigrwydd monitro perfformiad y ddiadell. Y newid yn null rheoli’r ddiadell yn fferm Glanmynys, ac adolygu’r data perfformiad blynyddol.

Bydd Hybu Cig Cymru hefyd yn ymuno, er mwyn trafod eu prosiect ansawdd Cig Oen Cymru y mae Glanmynys yn rhan ohono, yn ogystal âg Francis Dunne, Field Options bydd yn trafod opsiynau ail-hadu a chnydau porthiant ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae Glanmynys yn rhan o rwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio, yn canolbwyntio ar gynyddu’r enillion yn y pwysau byw ar borthiant, ystyried pa ddulliau sydd fwyaf effeithiol ar gyfer cywiro’r diffyg elfennau hybrin, defnyddio EID i fonitro perfformiad y gwartheg ac ymchwilio i werth tyfu cnydau porthiant fel cnydau toriad ac ystyried pa rai sy’n perfformio orau.

Mae Safle Arddangos Glanmynys yn ddaliad Daliad bîff a defaid o 202 hectar (ha) sy’n cael ei ffermio gan berchennog y fferm, Carine Kidd, a’i phartner ffermio cyfran, Peredur Owen.

Mae’r fferm yn cynnal diadell o 700 o famogiaid Cymreig x Aberfield, ac mae’r mwyafrif yn ŵyna y tu allan rhwng 1 Ebrill a 1 Mai. Mae buches o 25 o wartheg sugno, sef croesiadau Simmental yn bennaf, yn lloia yn y gwanwyn a’r hydref, ond bydd y niferoedd yn cael eu lleihau’r haf hwn er mwyn cynyddu’r mentrau defaid a gwartheg. 

Mae’r lloi’n cael eu gwerthu’n uniongyrchol oddi ar y fferm neu mewn marchnadoedd da byw. Mae’r busnes yn magu 40 o loi blwydd Aberdeen Angus.

I archebu eich lle ar gyfer y digwyddiad hwn, cofrestrwch isod erbyn 11yb ar 11/08/22, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â menna.williams@menterabusnes.co.uk / 07399 849148.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle