Mae Cymunedau am Waith a Mwy wrth law i gynorthwyo gyda chymorth anabledd

0
188
Tina Evans

Llongyfarchiadau i Tina Evans sydd newydd ymuno a thîm cyflwyno BBC Cymru ac sy’n gohebu o Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham ar hyn o bryd.

Wrth baratoi ar gyfer dechrau ei swydd newydd, gofynnodd Tina am gymorth gan raglen Cymunedau am Waith a Mwy Cyngor Sir Caerfyrddin i helpu i oresgyn sawl rhwystr, megis mynediad at waith a chyfathrebu â’r gwasanaethau cymdeithasol.

Mae Tina, sy’n dod o Bontyberem yn wreiddiol, yn wynebu nifer o heriau, oherwydd anableddau a chyflyrau iechyd hirdymor, ac mae angen llawer o gymorth arni o ran symudedd a gofal bob dydd, gan ei bod yn ddefnyddiwr cadair olwyn.

Cyn dechrau ei swydd newydd gyda’r BBC, dywedodd Tina “Roeddwn i wedi cael cynnig swydd gyda BBC Cymru, fel rhan o’r tîm cyflwyno, ac roedd angen i mi drefnu cymorth yn ystod fy rôl. Gan fod amser yn brin, fe wnes i gysylltu â’r ganolfan Cymunedau am Waith a Mwy gyda’r gobaith o gyflymu pethau. Hwn oedd y penderfyniad gorau wnes i. Ar ôl siarad â’r tîm, roeddwn i’n teimlo bod fy mhryderon wedi lleihau’n sylweddol gan nad oeddwn i’n trefnu pethau ar fy mhen fy hun bellach.

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i Desiree o’r tîm Cymunedau am Waith a Mwy. Fe wnaeth hi fy helpu drwy alwadau ffôn gyda mynediad at waith a gwasanaethau cymdeithasol a thrwy gysylltu â nhw i wneud yn siŵr ein bod yn bodloni’r dyddiadau cau angenrheidiol. Roedd ychydig o rwystrau i’w goresgyn ar hyd y ffordd, ond gyda chefnogaeth a natur benderfynol Desiree, fe wnaethon ni eu goresgyn. Mae’n rhaid i mi gyfaddef, roedd ei chymorth yn werthfawr iawn o ran cael mynediad at waith a hebddo, byddwn i wedi rhoi’r gorau iddi.

“Gallaf bellach edrych ymlaen yn llawn cyffro at y cyfle hwn, gan wybod bod gennyf y gefnogaeth sydd ei hangen arnaf.”

Dywedodd Desiree De Mouilpied, Swyddog Cyflogaeth Cymunedol/Arbenigwr Anabledd “Mae wedi bod yn fraint helpu Tina ar ei thaith i gael gwaith. Mae ei chymeriad a’i natur benderfynol i wireddu ei breuddwydion a goresgyn rhwystrau cymhleth i gyflogaeth, wedi bod yn ysbrydoledig. Rydym i gyd yn dymuno pob lwc iddi yn ei swydd newydd.”

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn darparu’r seilwaith i gefnogi’r gwaith parhaus o ddarparu Cymunedau am Waith. Mae’r rhaglen yn gwella’r cymorth sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth i’r rheiny, sy’n aml â rhwystrau cymhleth, sydd bellaf o’r farchnad lafur i hyfforddiant a chyflogaeth yn y dyfodol gydag ymagwedd gyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydlynu cymorth cyflogaeth o’i Hwb a’i swyddfa yn Llanelli, yng Nghanol Tref Llanelli.

I gael rhagor o wybodaeth am raglen Cymunedau am Waith a Mwy, ewch i https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/swyddi-a-gyrfaoedd1/help-i-ddod-o-hyd-i-swydd/ neu anfonwch e-bost at c4wplus@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01554 784847.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth “Rydym yn hynod falch dros Tina ac yn falch iawn o’i llwyddiant wrth gael swydd gyda BBC Cymru.

“Byddwn i’n annog pobl yn ein sir sy’n edrych am waith i fanteisio ar y gefnogaeth y gall Cyngor Sir Gaerfyrddin ei rhoi i chi. Gall ein timau cymorth cyflogaeth eich helpu i nodi cyfleoedd hyfforddiant, darparu mentor personol i chi, gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun gweithredu swydd, eich helpu i feithrin hyder a’ch helpu i ysgrifennu CV a chwblhau ceisiadau am swyddi.

Rydyn ni eisiau cefnogi mwy o bobl, fel Tina, i oresgyn rhwystrau i gael gwaith.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle