Rhediad Tractor yn codi dros £900 i Wasanaethau Diabetes Ceredigion

0
618
Yn y llun: Alun Evans a Carol Evans - Uwch Nyrs Glinigol Arbenigol mewn Diabetes.

Mae grŵp cymunedol Sioe Llanbrynmair wedi rhoi dros £900 i Wasanaethau Diabetes yn Ysbyty Bronglais.

Cynhaliodd y grŵp rediad tractor yn ôl yn 2021 mewn ymgais i godi arian ar gyfer Gwasanaethau Diabetes yn Ysbyty Bronglais er cof am Eleri Evans.

Bu Eleri yn gwasanaethu’r pentref fel ysgrifennydd sioe am nifer o flynyddoedd ond yn anffodus bu farw yn yr Uned yn ystod y cyfnod cloi. Cododd y digwyddiad gyfanswm o £950.

Dywedodd Wendy Davies, Ysgrifennydd Sioe Llanbrynmair: “Mae hwn yn ddigwyddiad rydyn ni’n ceisio ei gynnal bob blwyddyn, er bod 2020 wedi’i golli! Bob blwyddyn rydym yn dewis cronfa elusen wahanol, fel arfer ym Mronglais.

“Roedd y rhediad tractor yn llwyddiant ysgubol gyda 24 o dractorau yn cymryd rhan: rhai vintage, rhai bron yn newydd sbon, rhywbeth i bawb. Mae’r cyfranogwyr yn mwynhau’r diwrnod ac yn cael rhediad da o amgylch y pentref gyda digon o luniaeth cyn y dechrau ac yn yr arhosfan cinio hanner ffordd.”

Dywedodd Lona Phillips, Nyrs Arbenigol Diabetes: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Sioe Llanbrynmair am eu cyfraniad caredig i wasanaethau Diabetes Bronglais. Bydd yr arian hwn yn gymorth i brynu offer newydd a hefyd deunydd addysgol, a fydd yn ei dro yn ein helpu i gynnal gwasanaeth o ansawdd uchel i’n cleifion.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle