Cannoedd o drigolion lleol yn creu Taith wedi’i goleuo unwaith mewn oes ar ‘Fynydd Copr’ Ynys Môn a Harbwr Amlwch mewn dathliad arbennig dros ddau ddiwrnod o greadigrwydd a thechnoleg

0
213
Copper Mountain Anglesey Credit visit Angelsey

https://greenspacedarkskies.uk/films/

Am ddigwyddiad dau ddiwrnod arbennig ar ddydd Sadwrn Awst 6 a dydd Sul Awst 7, daeth cannoedd o gyfranogwyr o bob cefndir, yn cael eu hadnabod hefyd fel Goleuwyr,  ynghyd gydag artistiaid o Ogledd Cymru ar gyfer Goleuo’r Gwyllt, i ddathlu tirwedd unigryw Ynys Môn a hawl pawb i archwilio cefn gwlad.

Wedi’i ddatblygu gan arbenigwyr celf awyr agored Walk the Plank, mae Goleuo’r Gwyllt yn rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, yn rhedeg o Ebrill i Fedi 2022. Dyma oedd y trydydd digwyddiad cyhoeddus i ddigwydd yng Nghymru, gyda miloedd o bobl yn cymryd rhan ledled y DU.

Ar nos Sadwrn,ymgasglodd tua 400 o bobl – yn cynnwys pobl leol, grwpiau cymuned a phobl o rannau gwahanol o’r DU – ym Mynydd Parys.

Wedi’i ddewis am ei dreftadaeth ddiwydiannol a daeareg angyhoel, anelodd y digwyddiad at fwrw goleuni ar bwysigrwydd hanesyddol yr ardal.

“Mynydd Parys oedd cloddfa gopr fwya’r byd ar un adeg, dywedodd Liz Pugh (Walk the Plank), Cyfarwyddwr Creadigol y digwyddiad. “Mae’r mwyn a gafodd ei gloddio yn yr ardal ers amseroedd Neolithig yn hanfodol o hyd heddiw:mae weiren gopr yn dargludo trydan i mewn i’n cartrefi ; mae copr yn pweru’n ffoniau clyfar, lled-ddargludyddion, a microsglodion – heb gopr ni fyddai chwyldro digidol technolegol.”

Yn y digwyddiad, gwrandawodd ymwelwyr ar sgyrsiau gan Neil Summers o’r Deyrnas Gopr, am hanes y Gloddfa, a chan geoffisegwyr, yr Athro Celia Burek a Gavin Robertson,o GeoMôn, y sefydliad sy’n gyfrifol am ennill statws Parc Geo UNESCO y mae’r rhan hon o Gymru yn ei fwynhau.

Arweiniodd Circopyro weithdy sgiliau syrcas, a gweithiodd yr artistiaid lleol, Simone Williams a Rhiannon Foggerty,â chyfranogwyr i greu cerflun tir a chafodd te ei weini o’r samofar copr mwyaf yn y byd, gan atgyfnerthu buddion darparu iechyd y ‘metal rhagorol’ hwn.

Roedd y daith i mewn i’r gloddfa yn cynnwys perfformiad byw gan BARDD –triawd cerddorol yn cynnwys tri artist lleol: Ed Holden, yn cael ei adnabod hefyd fel pencampwr bîtbocsio Mr Phormula, yn wreiddiol o Amlwch; Martin Daws, artist y gair llafar ac yn gyn-Fardd Llawryfol Cymru i bobl ifanc, a’r amlofferynnwr Henry Horrell – a gafodd eu comisiynu i greu’r trac sain ar gyfer y noson. Ychwanegodd tîm creadigol Walk the Plank hud a lledrith yn ffurf tân ac effeithiau arbennig i oleuo tirwedd leuadol y mynydd.

Amlwch Bay Harbour credit: Amlwch.com

Yn y cyfnos, roedd y Goleuwyr – gan gario Geo-oleuadau effaith isel o gwmpas gweithfeydd y Gloddfa tra’n gwrando ar drac sain dwyieithog Bardd oedd yn cynnwys sain archif wedi’i ddarparu gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch, wedi’i gymysgu â barddoniaeth a cherddoriaeth gyfoes i greu seinwedd atgofus i gyd-fynd â’u taith.

Mae hanes y mynydd yn gysylltiedig â hanes Amlwch a ddatblygodd gyda’r cloddfeydd ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif i ddod yn borthladd pwysig gydag adeiladu llongau, mwyndoddi a diwydiannau cemegol.

Ar nos Sul ymgasglodd pobl leol yn Harbwr Amlwch am ddathliad cymunedol i gwblhau stori cyrhaeddiad y Deyrnas Gopr y tu hwnt i lannau Ynys Môn. Roedd cerddoriaeth fyw gan y gantores werin o Ogledd Cymru, Eve Goodman, ac arweiniodd y  seren a gyrhaeddodd Rownd Derfynol Britain’s Got Talent MC Gruffydd Wyn, y noson o’r llwyfan.

Wrth i’r haul fachlud, safodd pobl ar hyd wal yr harbwr â’u Geo-oleuadau fel llongau traddodiadol – Y Wilma a bad achub hanesyddol  Cemaes –yn hwylio allan o’r harbwr i’r môr, yn cludo cargo symbolaidd o olau wrth i Gruff Wyn arwain y dyrfa oedd yn Gymry Cymraeg yn bennaf i ganu’r faled Gymreig draddodiadol ‘Ar Lan Y Môr’


Cafodd yr antur creadigol trawiadol ei ffilmio a bydd ar gael i’w weld am ddim ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Goleuo’r Gwyllt yn fuan ar ôl y digwyddiad. Cafodd yr holl ffilmiau eu gwneud yng Nghymru – ar Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac ar Ynys Môn – a byddant yn cael eu dangos ar sgrîn mewn rhaglen BBC Wales arbennig yn ddiweddarach yr haf hwn. 

Mae’r digwyddiad Goleuo’r Gwyllt olaf yng Nghymru yn Yr Wyddfa / Parc Cenedlaethol Eryri (Medi 2022). Ni fydd Yr Wyddfa yn cynnwys y cyhoedd yn cymryd rhan. Bydd yn cael ei ffilmio fel rhan o’r Diweddglo i’w ddarlledu ar BBC Countryfile yn yr hydref, ynghyd â’r tri copa uchaf arall yn y DU.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle