Diolch i’ch rhoddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu gwerth bron i £5,000 o offer i helpu gyda dosbarthiadau llesiant ar gyfer cleifion gofal lliniarol yn Hosbis Tŷ Bryngwyn sydd ynghlwm wrth Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli.
Nawr bod y set o 10 cadair y gellir eu stacio, bwrdd fawr ffliptop a sgrin fawr, gludadwy wedi’u darparu, gall dosbarthiadau a gwasanaethau ailgychwyn yn yr uned ac yn rhithiol.
Dywedodd Heather Toller, Rheolwr Cymorth Cyflenwi Gwasanaethau: “Rydym wedi gallu ail-gyflwyno gwasanaethau llesiant fel therapi celf, reiki a thechnegau ymlacio eraill, cerddoriaeth a sesiynau campfa.
“Dim ond oherwydd darpariaeth yr offer a’r dodrefn newydd, mwy amlbwrpas hyn sy’n rhoi mwy o arwynebedd llawr i ni y bu hyn yn bosibl. Mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cleifion.”
Yn y llun mae Claire Price, Nyrs Arweiniol Glinigol ar gyfer Gofal Lliniarol Arbenigol yn Sir Gaerfyrddin, gyda rhai o’r offer newydd.
Mae eich rhoddion i Elusennau Iechyd Hywel Dda yn gwneud gwahaniaeth mawr. Os hoffech gefnogi eich GIG lleol, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle