Mae partneriaeth addysg sydd ââr nod o helpu plant i archwilio amgylchedd naturiol, cynnyrch a rhwydweithiau bwyd Sir Benfro yn mwynhau llwyddiant lliwgar iawn, diolch i brosiect creu dolydd mewn ysgol gynradd leol.
Mae gan bob dĂ´l stori iâw hadrodd, ac mae gwreiddiau stori dĂ´l flodau gwyllt Johnston yn ymestyn i 2019, pan benderfynodd yr ysgol gymryd rhan ym mhrosiect Gwreiddiau.
Sefydlwyd Gwreiddiau, sef prosiect partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a chymorth ariannol South Hook LNG, i ddarparu sesiynau dysgu awyr agored diddorol, meithrin gwell dealltwriaeth o gynhyrchu bwyd lleol a darparu cymorth i ddatblygu mannau awyr agored.
Dywedodd Elsa Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: âGydaâr blynyddoedd diwethaf wedi peri i ysgolion orfod cofleidio ffyrdd newydd o ddysgu, ni allaiâr bartneriaeth Gwreiddiau wedi dod ar amser gwell. Ers ei sefydlu, mae cannoedd o blant lleol wedi cysylltu ââr amgylchedd, yn ogystal â busnesau a chymunedau lleol.
âSefydlwyd y ddĂ´l flodau gwyllt fechan yn Ysgol Johnston gyda chefnogaeth gan bartneriaeth Gwreiddiau, ynghyd ag arbenigedd Tom Bean, Parcmon Addysg y Parc Cenedlaethol. Ers hynny, mae wedi ffynnu ac wedi tyfu i fod yn gynrychiolaeth berffaith o bopeth yr oedd y prosiect yn gobeithio ei gyflawni o ran adfywio, bioamrywiaeth a chysylltedd â byd natur aâr gymuned.â
Yn gynharach yr haf hwn, gwahoddwyd cynrychiolwyr o South Hook LNG ac Ymddiriedolaeth y Parc Cenedlaethol i fynd gyda disgyblion Blwyddyn 4 o Johnston ar ymweliad â fferm yn Hook sydd â dôl ysblennydd yn ymestyn i lawr at Afon Cleddau. Ar ôl dysgu sut i adnabod gwahanol rywogaethau o ddolydd a sut gall cribell felen gynnal cynefin iach, aeth y disgyblion â hadau yn ôl gyda nhw i blannu yn eu dolydd blodau gwyllt eu hunain.
Nawr bod y planhigyn wedi sefydlu, disgwylir y bydd y ddĂ´l yn Ysgol Johnston yn mynd o nerth i nerth, gan ddarparu cynefin pwysig ar gyfer pryfed peillio a gwledd ar gyfer synhwyrau dynol yn ystod misoedd yr haf.
Wrth iâr bartneriaeth Gwreiddiau fynd yn ei blaen, bydd astudiaethau cynefin a chreu a chynnal amgylcheddau syân tyfu ar dir ysgolion yn parhau i fod yn feysydd ffocws allweddol, gyda chynlluniau i gryfhau ymwybyddiaeth ymhellach am gynhyrchwyr lleol yma yn Sir Benfro.
âRydyn niân falch o fod wedi bod yn cefnogiâr prosiect hwn ers ei sefydlu, gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i roi cyfleoedd a phrofiadau newydd i blant ddysgu am eu hamgylchedd a rĂ´l hanfodol rhwydweithiau bwyd a busnesau lleol ar draws ein sir,â meddai Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus South Hook LNG, Mariam Dalziel.
âMae addysg yn rhan bwysig oâr ffordd rydyn niân ymgysylltu â chymuned Sir Benfro, ac mae llwyddiant parhaus prosiect Gwreiddiau yn brawf o fanteision amlwg dysgu yn yr awyr agored i gynifer o bobl ifanc.â
Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen gofrestredig, a sefydlwyd i helpu i ofalu am y Parc Cenedlaethol aâi ddiogelu. Maeâr bartneriaeth â South Hook LNG yn dangos cyd-ddealltwriaeth o ba mor hanfodol yw addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd yr amgylchedd naturiol.
I ddysgu mwy am waith yr Ymddiriedolaeth, ewch i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle