Ffenestr wydr lliw wedi’i chysegru yng Nghapel Ysbyty Llwynhelyg

0
247
l- r Father Liam Bradley, Revd Martin Spain, Ms Laura Phillips and Revd Geoffrey Eynon. l- r Father Liam Bradley, Revd Martin Spain, Ms Laura Phillips and Revd Geoffrey Eynon.

Cafodd ffenestr liw newydd ei chysegru yn ystod gwasanaeth arbennig yng Nghapel Sant Luc yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Ariannwyd y ffenestr gan Sbardun, Dysgu yn Sir Benfro, gyda chymorth Cymunedau yn Gyntaf.

Crëwyd y darn celf lliwgar gan rieni Ysgol y Santes Fair yn Noc Penfro ar gwrs, dan gyfarwyddyd tiwtor gwydr lliw hynod fedrus Sbardun, Pandora Hughes.

Crëwyd y ffenestr yn wreiddiol yn 2015 ac fe’i cynlluniwyd i ffitio ffenestri neuadd Ysgol y Santes Fair yn Noc Penfro ond collodd ei chartref ar ôl i’r ysgol gau yn 2018. Roedd Tîm y Gaplaniaeth yn ysbyty Llwynhelyg yn falch o gynnig cartref newydd i’r ffenestr.

Dywedodd Laura Philips, Cydlynydd Sbardun: “Y gobaith yw y bydd eraill yn cael cymaint o bleser o’i ddyluniad a’i liwiau ag y gwnaeth pawb wnaeth ei chreu.

“Mae’r ffenestr yn ceisio dal popeth sydd gan fywyd i’w gynnig a phwysigrwydd ein diwylliant a’n hamgylchedd. Mae’n dathlu’r môr a’r arfordir, hanes y Bomwyr Sunderland o Ddoc Penfro a phensaernïaeth feiddgar a chryf y dref. Mae’r enfys yn cynrychioli gobaith ac addewid, cariad a bywyd. Mae colomen heddwch yn symbol o dawelwch a gweddi a doethineb nefol. Ac o amgylch yr ymylon fe welwch ddelweddau o iechyd, cyfoeth, natur, cerddoriaeth a llenyddiaeth. Mae’r rhosyn yn sefyll am bwysigrwydd bywyd i’r holl rieni a weithiodd ar y ffenestr hon.”

Y Parchg Geoffrey Eynon, caplaniaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; Y Tad Liam Bradley a’r Parchg Martin Spain oedd yn gweinyddu’r gwasanaeth cysegru.

Roedd tîm Sbardun yn bresennol a siaradodd Laura Philips am gyd-destun hanesyddol y ffenestr lliw.

Rhoddodd Bethan Andrews, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau Ysbyty Llwynhelyg, (Strôc a COTE), sy’n cynrychioli’r bwrdd iechyd air o ddiolch i gloi’r cyflwyniad gan ddilyn gyda’r ôl-ymdeithgan.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle