Dathlu 70 mlynedd ym mhabell y Parc Cenedlaethol yn Sioe’r Sir

0
230

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dathlu’r 70 mlynedd ysblennydd yn Sioe Sir Benfro ar 17 a 18 Awst, lle bydd yn dangos treftadaeth ddiddorol, bywyd gwyllt ac arfordir o safon fyd-eang yr ardal.

Ar y gornel rhwng yr Heol Ganol a’r Brif Heol, fe welwch chi stondin Awdurdod y Parc Cenedlaethol a fydd yn llawn gweithgareddau cyffrous i bawb, yn ogystal â digonedd o wybodaeth am grwydro o gwmpas y Parc.

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc, Tegryn Jones: “Eleni, mae’r Awdurdod yn gwahodd pobl i ddod i fwynhau dysgu am dirwedd anhygoel Sir Benfro ac am sut gallwn ni helpu i’w warchod drwy arddangosfeydd ymarferol rhyngweithiol amrywiol a gweithgareddau difyr.

“Tu fewn i’r babell, bydd gennym Barcmyn Awdurdod yn rhoi eu cyngor ar sut i fanteisio i’r eithaf ar Arfordir Sir Benfro, yn ogystal â llu o wybodaeth ac arddangosfeydd am gael mynediad at y Parc Cenedlaethol a’i fwynhau.

“Bydd plant wrth eu bodd â’r gweithgareddau sy’n addas i deuluoedd cyfan, gan gynnwys cael hadau blodau gwyllt am ddim, a chyfle i liwio blodau gwyllt. Hefyd, mae cyfle i gael gwybod mwy am gynllun yr Awdurdod i logi cadair olwyn ar y traeth, yn ogystal â’r cyfleoedd cerdded a mynediad gwych a chynhwysol sydd gan y Parc i’w cynnig i bobl o bob oed a phob gallu.

“Bydd Hannah Rounding a Tamsin Gear sy’n artistiaid lleol yn ymuno â ni ar y feranda, ac yn cynnig sesiynau crefft ymarferol am ddim i blant. Byddant hefyd yn cael cyfle dros ddau ddiwrnod y Sioe i gyfrannu eu creadigaethau ‘campwaith o’r ddol’ sy’n dangos y rhan hollbwysig hon o dirwedd eiconig y Parc Cenedlaethol.”

Mae cyfle hefyd i ennill llyfrau adnabod blodau gwyllt drwy gymryd rhan mewn gweithgaredd helfa drysor ar gyfer blodau gwyllt o amgylch pabell yr Awdurdod.

Ddydd Iau 18 Awst, bydd cynrychiolwyr o Just Bees yn ymuno â stondin Awdurdod y Parc i arddangos cwch gwenyn sydd ar waith ac yn cynnig sesiynau creu canhwyllau cŵyr rhyngweithiol am ddim.

Hefyd yn bresennol bydd swyddogion o Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn arddangos amrywiaeth o brosiectau sydd wedi cael eu cefnogi diolch i gyllid a rhoddion, gan gynnwys y cynllun Creu Mwy o Ddolydd, sy’n cefnogi dolydd presennol ac yn creu mwy o ddolydd ar gyfer bywyd gwyllt, gan alluogi pryfed a phlanhigion i symud ar draws ardal ehangach fel y gall eu rhywogaethau ffynnu a chael eu cynnal.

Am ragor o wybodaeth am Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru. Mae modd dod o hyd i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar Twitter @PembsCoast neu ar Facebook ‘Pembrokeshire Coast’.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle