Mae gêm bêl-droed ac arwerthiant cyn-filwyr yn codi dros £1,000 i Ward y Plant

0
392

Cododd gêm bêl-droed elusennol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn erbyn Arwyr Tref Aberystwyth dros £1,000 i Ward Angharad yn Ysbyty Bronglais.

Cododd y gêm, a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2022 i goffau Jiwbilî Platinwm y Frenhines, gyfanswm o £1,150 i Ward Angharad a £850 i gefnogi Ken Williams.

Roedd Ken yn aelod rheolaidd o’r tîm cyntaf ers tymor 1974/1975 ond yn anffodus cafodd strôc ychydig cyn ei ben-blwydd yn 60 oed.

Dyma’r ail flwyddyn i’r digwyddiad gefnogi ward y plant, y llynedd cododd y gêm £827.

Dywedodd Colin Jones, trefnydd y digwyddiad: “Diolch i bawb a gefnogodd y digwyddiad hwn, yn enwedig Ben Lake, ein Haelod Seneddol lleol, am ddod fel ein gwadd anrhydeddus. Mae’r diolch mwyaf oll yn mynd allan i’r chwaraewyr a’r swyddogion, sydd, trwy 80 munud o chwys a sgil ac ychydig o anafiadau linyn y gar, wedi darparu adloniant na ellir ond ei gredydu i deyrngarwch a thestun gwaith tîm, cyfeillgarwch, a’r penderfyniad i wneud daioni.

“Heb y cwlwm arbennig sy’n ein huno criw o frodyr o’r “Gatrawd”, y “23rd foot”, Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig/Cymry Brenhinol ni fyddai’r digwyddiad hwn erioed wedi digwydd.”

Dywedodd Bridget Harpwood, swyddog codi arian: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Colin a phêl-droedwyr y cyn-filwyr am godi swm mor wych o arian i Ward Angharad.

“Mae Ward y Plant ym Mronglais yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan deuluoedd ar draws canolbarth Cymru. Bydd yr arian a godir yn helpu i ddarparu’r pethau ychwanegol hynny sy’n gwneud ymweliadau ychydig yn fwy cyfforddus i’r plant a’u rhieni a’u gofalwyr.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle