Cododd aelodau Merched y Wawr Ceredigion dros £400 at Apêl Cemo Bronglais gyda thaith gerdded natur ddiweddar.
Dan arweiniad y llywydd cenedlaethol Jill Lewis, cerddodd 44 aelod o’r mudiad o Aberaeron i Lanerchaeron ac yn ôl, tra’n derbyn sgwrs am flodau, adar ac anifeiliaid lleol gan yr arbenigwraig Bethan Hartnup.
Dywedodd Ysgrifennydd y Sir Mair Jones, a gafodd driniaeth cemotherapi ei hun ym Mronglais yr haf diwethaf ar ôl cael diagnosis o ganser y groth, fod y grŵp am gefnogi’r Apêl.
“Mae canser yn cyffwrdd â phawb mewn rhyw ffordd neu’i gilydd ac mae’n bwysig bod gennym ni uned ddydd cemotherapi newydd yn Ysbyty Bronglais,” meddai Mair, sy’n byw yn Aberaeron.
“Doedd y tywydd ddim yn dda ar gyfer y daith gerdded ar y 25ain o Fehefin, cafwyd cawod ofnadwy ar y dechrau, ond roedd pawb wedi mwynhau
“Fe wnaethon ni gario bwcedi casglu ar hyd y llwybr, gan godi dros £800, hanner ohono’n mynd i’r Apêl a’r hanner arall i elusen leol arall. Daeth y daith i ben gyda the a chacen yng Nghlwb Chwaraeon Aberaeron.”
Nod Apêl Cemo Bronglais yw codi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais, er mwyn gwella profiad y claf.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch I www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle