Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd y cyfnod cofrestru ar gyfer taliad o £500 i ofalwyr di-dâl yn ailagor ar 15 Awst ac yn parhau ar agor hyd at 2 Medi 2022.
Bydd gan ofalwyr di-dâl a oedd yn cael Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022 un cyfle olaf i wneud hawliad os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny. Nid oes unrhyw newid i’r meini prawf cymhwysedd. Rhaid i ofalwyr di-dâl gysylltu â’u hawdurdod lleol i gofrestru cyn y dyddiad cau newydd.
Mae’r data diweddaraf ar y nifer sydd wedi manteisio ar y taliad yn dangos bod dros 70% o ofalwyr di-dâl cymwys wedi cofrestru’n llwyddiannus ar gyfer y taliad hyd at 22 Gorffennaf, a bod 65% eisoes wedi’u talu. Mae’r ffigur yn debygol o fod yn uwch o ystyried nifer yr hawliadau sydd dal i’w prosesu gan awdurdodau lleol.
Buddsoddwyd mewn ymgyrch gyfathrebu helaeth i hyrwyddo’r taliad drwy gydol mis Mai a Mehefin. Rhannwyd gwybodaeth drwy gyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Twitter, Instagram a Facebook. Fe wnaethom hefyd gynnal ymgyrch ar hafan Wales Online ar sawl dyddiad. Roedd perfformiad cyffredinol yr ymgyrch ar-lein yn gryf – cynhyrchodd yr hysbysebion dros 1.5 miliwn o argraffiadau a chyrraedd dros 78,000 o bobl unigol.
I gyrraedd pobl nad ydynt ar-lein, rhannwyd y negeseuon drwy fagiau fferyllfa, hysbysebion radio a hysbyseb hanner tudalen drwy gydol mis Mai a Mehefin mewn amrywiaeth eang o bapurau newydd printiedig ledled Cymru.
Cafodd y taliad hefyd sylw gan newyddion cenedlaethol ar y teledu a’i hyrwyddo gan awdurdodau lleol a sefydliadau sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl.
Er gwaethaf y sylw hwn, rwy’n ymwybodol bod rhai gofalwyr di-dâl wedi methu’r dyddiad cau neu nad oeddent wedi sylweddoli ei bod yn ofynnol iddynt gysylltu â’u hawdurdod lleol i gofrestru ar gyfer y taliad. Gobeithiaf y bydd ailagor y cyfnod cofrestru yn caniatáu i fwy o ofalwyr di-dâl a oedd yn cael Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth elwa ar y taliad hwn.
Byddwn yn croesawu cefnogaeth Aelodau o’r Senedd i hybu ymwybyddiaeth o’r ffenestr gofrestru newydd.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle