Gosododd Jason Clifton yr her anhygoel iddo’i hun o redeg 200km trwy gydol mis Awst i godi arian at elusen.
Cafodd Jason ddiagnosis o garsinoma celloedd cennog ym mis Rhagfyr 2021. Cafodd 30 rownd o radiotherapi a dwy lot o gemotherapi dros gyfnod o dri mis.
Rhwng ei ddiagnosis a’i driniaeth, dioddefodd Jason hefyd golled drasig ei dad a thri aelod arall o’r teulu.
Derbyniodd Jason gefnogaeth a gofal anhygoel gan deulu, ffrindiau a chymdogion, a staff Adran Canser y Pen a’r Gwddf yn Ysbyty Glangwili a’r tîm Radiotherapi yn Ysbyty Singleton. Bydd yn rhoi elw o’i ddigwyddiad codi arian i’r ddau wasanaeth.
Dywedodd Jason: “Dechreuais redeg ar ôl i’m triniaeth ddod i ben. Roedd mynd allan ym myd natur wedi fy helpu yn aruthrol. Fe wnes i therapi dŵr oer hefyd. Penderfynais redeg 200km ym mis Awst i helpu eraill. Rwyf hefyd am roi rhywbeth yn ôl i Adran Canser y Pen a’r Gwddf yn Ysbyty Glangwili ac adran Radiotherapi yn Ysbyty Singleton.
“Diolch i bawb a oedd gyda mi ar fy nhaith drwy amseroedd anodd, diolch i dîm Canser Pen a Gwddf Caerfyrddin a Radiotherapi a Chemotherapi Singleton am eich holl gymorth a chefnogaeth.”
I gyfrannu at ddigwyddiad codi arian Jason, ewch i: https://www.justgiving.com/fundraising/jason-clifton1
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle