Disgyblion Ceredigion yn derbyn eu canlyniadau TGAU

0
1014

Dymuna Cyngor Sir Ceredigion longyfarch disgyblion Ceredigion sydd yn derbyn eu canlyniadau TGAU yr wythnos hon.

Mae’r canlyniadau TGAU a gyhoeddwyd heddiw gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion yn parhau i gyrraedd safonau uchel. Mae 98.7% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau CBAC wedi derbyn graddau A* i G, gyda 77.1% yn ennill  graddau  A* – A. 

Mae’r tablau canlynol yn nodi’r ffigurau cymharol.

 Ceredigion 2022Cymru2022
Gradd A* – A28.1%25.1%
Gradd A* – C77.1%68.6%
Gradd A* – G98.7%97.3%

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Hoffwn longyfarch holl ddisgyblion Ceredigion sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU yr wythnos hon. Mae ein pobl ifanc wedi gweithio’n galed tu hwnt mewn cyfnod heriol a dymunwn yn dda i bawb wrth iddynt gamu’n hyderus i’w dewis nesaf, boed yn y chweched dosbarth, addysg bellach neu fyd gwaith. Llongyfarchiadau mawr.”

Neges gan yr ysgolion

Jane Wyn, Pennaeth Ysgol Bro Pedr: “Rydym mor falch o gyflawniadau ein disgyblion. Er gwaethaf y trafferthion y mae’r disgyblion hyn wedi’u profi oherwydd y pandemig, maent wedi dangos llawer iawn o egni a chydnerthedd ac maent, gobeithio, yn falch o’r graddau y maent wedi’u hennill ar lefel TGAU. Edrychwn ymlaen at groesawu llawer o ddisgyblion yn ôl i’r chweched dosbarth ym mis Medi a hoffem hefyd ddymuno pob llwyddiant i’r disgyblion hynny sy’n mynd ymlaen i’r coleg neu’r byd gwaith yn y dyfodol. Diolch i’r disgyblion, y rhieni a’r athrawon am bob cymorth a chefnogaeth unwaith eto eleni”.

Gareth Evans, Pennaeth Dros Dro Ysgol Bro Teifi:“Hoffwn estyn llongyfarchiadau gwresog i’n holl ddisgyblion ar eu llwyddiant yn yr arholiadau TGAU eleni. Rydym yn ymfalchïo yn eu llwyddiant a dymunwn ddiolch i’r athrawon am eu gwaith paratoi ac i’r rhieni am gefnogi eu plant yn ystod y ddwy flynedd ddigynsail ddiwethaf. Bydd llawer o’r disgyblion yn dychwelyd i astudio yn y chweched dosbarth ac eraill yn mynd ymlaen i goleg neu i brentisiaethau. Dymuniadau gorau i bawb ar gyfer y dyfodol.”

Nicola James, Pennaeth Ysgol Uwchradd Aberteifi: “Rydym yn hynod falch o lwyddiannau’r disgyblion a’u canlyniadau rhagorol eleni. Rwyf wedi fy syfrdanu gan y ffordd y mae ein disgyblion wedi ymddwyn mewn cyfnod sydd wedi bod yn heriol iawn ym myd addysg. Mae ein disgyblion wedi arddangos gwytnwch, dycnwch a gallu rhyfeddol i gynnal ffocws ac addasu eu dull o ddysgu yn wyneb aflonyddwch digynsail oherwydd pandemig COVID-19. Hoffwn eu llongyfarch nhw a’u teuluoedd, a diolch i’n staff addysgu a chymorth ymroddedig am eu hymrwymiad i’r disgyblion. Edrychwn ymlaen at groesawu’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn ôl i’r chweched dosbarth ym mis Medi, ac rydym yn dymuno pob llwyddiant i’r dyfodol ar gyfer y rheiny na fydd yn dychwelyd.”

Owain Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Aberaeron: “Mae’n fraint cael llongyfarch ein disgyblion ar eu canlyniadau ardderchog. Mae’r canlyniadau yma’n gwbl haeddiannol ac yn adlewyrchiad o ymrwymiad disgyblion i’w hastudiaethau, o’u gwaith caled ac o gefnogaeth athrawon a staff yr ysgol a rhieni a gofalwyr. Rydym yn gyffrous i groesawu canran uchel o ddisgyblion yn ôl i’n chweched dosbarth ac yn dymuno’r gorau i bawb sy’n mynd i astudio mewn coleg, dilyn prentisiaeth neu ddechrau ym myd gwaith.”

Dorian Pugh, Pennaeth Ysgol Henry Richard: “Heddiw, rydym yn falch dros ben o lwyddiannau ein disgyblion yn eu harholiadau TGAU eleni. Yn dilyn cyfnod heriol tu hwnt dros y ddwy flynedd diwethaf, mae’r disgyblion yma wir wedi cyrraedd safonau uchel gan adael marc positif ar yr ysgol a llongyfarchiadau anferth iddynt. Hoffwn ddiolch i’r staff am arwain a chefnogi’r disgyblion i gyrraedd eu llawn botensial. Dymunwn bob lwc i’r disgyblion wrth iddynt adael yr ysgol i fynd ymlaen i addysg bellach neu’r byd gwaith.”

Rhodri Thomas, Pennaeth Ysgol Gyfun Penweddig: “Llongyfarchiadau i ddisgyblion blwyddyn 11 wrth iddynt dderbyn graddau haeddiannol yn eu harholiadau TGAU. Maent wedi gweithio’n galed yn yr ysgol ac yn ystod cyfnodau clo i ddatblygu’r sgiliau sydd wedi eu caniatáu i gyrraedd safonau uchel yn eu harholiadau. Gobeithiwn y bydd y graddau hyn yn caniatáu iddynt gymryd y camau nesaf yn eu haddysg neu eu gyrfaoedd ac edrychwn ymlaen at groesawu llawer ohonynt yn ôl i’r chweched dosbarth ym mis Medi.”

Mair Hughes, Pennaeth Ysgol Gyfun Penglais: “Rydym yn hynod falch o ddisgyblion Blwyddyn 11 eleni. Maent wedi gweithio’n galed tu hwnt yn ystod cyfnodau heriol iawn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gan arddangos gwir uchelgais a gwytnwch i gael eu canlyniadau. Maent wedi creu argraff arnom o ran eu haeddfedrwydd a’u hagwedd ac mae’n braf gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn eu graddau. Diolch i’r holl staff a’r teuluoedd sydd wedi gweithio’n galed hefyd gan gefnogi’r disgyblion i gael eu graddau. Llongyfarchiadau mawr i bawb a dymunwn yn dda iddynt wrth ddychwelyd i’r chweched dosbarth neu wrth iddynt symud i sefydliadau addysg eraill neu brentisiaethau.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle