Anna yn codi £24,500 gwych i Apêl Cemo Bronglais

0
247
Above: Anna (right) is seen handing over the cheque to (from left) Oncologist Dr Elin Jones, Chemotherapy Clinical Nurse Specialist Bettina Vance, Health Care Support Worker Stacey Mleczek and Chemotherapy Sister Cassie Thomas

Trefnodd y wraig fusnes a mam i dri o blant, Anna Crane-Jones Ddawns Haf a chodwyd £24,500 gwych i Apêl Cemo Bronglais ar ôl derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron.

Dywedodd Anna ei bod am gefnogi’r apêl am uned ddydd cemotherapi newydd ar ôl i staff yno fod mor “rhyfeddol”.

Ar ôl rhagori ar ei tharged codi arian o £10,000, dywedodd Anna: “Ni allaf gredu o hyd bod cyfanswm o £24,500 wedi’i godi, a hynny i gyd diolch i gefnogaeth gan fusnesau ac unigolion lleol.

“Rhoddwyd llawer o amser ac ymdrech i’r digwyddiad, ond roedd yn werth yr ymdrech i

weld y targed o £10,000 yn cael ei gyrraedd. Roedd yn noson ardderchog, gyda bwyd da ac adloniant gwych, a gwnaeth Geraint Hughes waith ardderchog yn cynnal y noson. Diolch i bawb a gyfrannodd ac a fynychodd y noson i helpu i’w gwneud yn llwyddiant i achos mor dda.”

Cafodd Anna ddiagnosis o ganser y fron dair blynedd yn ôl, yn 37 oed.

“Fe wnes i ddod o hyd i lwmp tra ar wyliau sgïo ac fe aeth y cyfan oddi yno. Roedd yn gymaint o sioc darganfod bod gen i ganser. Dilynodd lwmpectomi, ynghyd â chwe mis o gemotherapi, pedair wythnos o radiotherapi a blwyddyn o imiwnotherapi. Rwy’n dal i fynd am archwiliadau bob chwe mis.”

“Roedd y staff yn yr uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais yn wych. Allen nhw ddim bod wedi gwneud mwy,” ychwanegodd Anna, sy’n byw yn Llanbedr Pont Steffan gyda’i gŵr, y ffermwr Ceirian Jones, a’u tri mab, Harvey, 17, Kai 14 oed ac Osian wyth oed.

“Roedd yn anodd i’r bechgyn ond roeddem bob amser yn aros yn bositif a nawr rwy’n teimlo’n iawn.”

Ychwanegodd Anna: “Roeddwn i eisiau trefnu rhywbeth i godi arian i’r Apêl i ddweud diolch. Mae cymaint o bobl wedi’u heffeithio gan ganser ac mae mor bwysig bod pawb yn gallu dod at ei gilydd i gefnogi Apêl Cemo Bronglais gyda’r ymdrech olaf i godi’r arian hanfodol sydd ei angen i agor yr uned newydd.”

Gwelir Anna (dde) yn trosglwyddo’r siec i’r (o’r chwith) Oncolegydd Dr Elin Jones, Nyrs Glinigol Arbenigol Cemotherapi Bettina Vance, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Stacey Mleczek a Prif Nyrs Cemotherapi Cassie Thomas.

Lansiwyd Apêl Cemo Bronglais ddiwedd mis Tachwedd i godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen i ddechrau adeiladu uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais.

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda sy’n trefnu’r Apêl: “Rydym mor ddiolchgar i Anna am ei chefnogaeth a’r swm anhygoel a godwyd. “Gyda chymorth ein cymunedau lleol, gall ein breuddwyd o gael uned newydd sbon, fodern ac addas ar gyfer y dyfodol i wella profiad ein cleifion ddod yn realiti.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


DIWEDD


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle