Ieuenctid CWBR – ffordd newydd o roi lle i bobl ifanc mewn cymunedau lleol

0
258

Mae pobl ifanc o bob rhan o Sir Benfro yn cymryd rhan mewn cyfres o ddyddiau Gweithgarwch Ieuenctid ar draws y sir yn ystod yr haf eleni . Mae’r dyddiau’n rhan o brosiect Ieuenctid CWBR (Llesiant & Gwytnwch Cymunedol) PLANED fydd yn sicrhau bod y prosiect yn cael ei arwain gan bobl ifanc ac roeddent yn gosod y seiliau ar gyfer cam nesaf y prosiect yn yr hydref. Mae Ieuenctid CWBR yn ceisio cefnogi ymgysylltu gwirioneddol rhwng Cynghorau Tref & Chymuned a phobl ifanc, yn y

cyswllt hwn trwy ddarparu gweithgareddau blaengar a diddorol er mwyn codi ymwybyddiaeth am ddemocratiaeth leol, gwaith Cynghorau Tref & Chymuned a sut allant wella bywydau pobl ifanc.

Aeth y Cynghorydd Tref y Cyng. Philippa Noble i’r digwyddiad fel gwirfoddolydd ac fe gafodd drafodaeth gyda’r grŵp am ei rôl yn gynghorydd lleol. Esboniodd y gwaith y mae’r Cyngor Tref yn ei wneud yn y gymuned a gofynnodd i’r bobl ifanc beth hoffent ei weld yn cael ei wella yn y dref. Dywedodd Philippa “Rwyf wedi mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladu tîm gyda’r pobl ifanc a trafod eu syniadau ar sut gall Cynghorwyr lleol eu helpu nhw”.

Arweiniodd Tom Moses, Cydlynydd Ieuenctid CWBR weithgaredd ‘bag cefn Ystafell Ddianc’ lle y cafodd y grŵp ei herio i gwblhau cyfres o dasgau yn gysylltiedig â Chynghorau Tref & Chymuned Sir Benfro ac ateb cwestiynau er mwyn cael y codau cywir i allu symud ymlaen i’r lefel nesaf. Roedd y diwrnod yn cynnwys nifer o weithgareddau awyr agored a thîm gwahanol. Esboniodd Tom ‘fod llawer o’r dulliau traddodiadol o weithio gyda phobl ifanc a ddefnyddiwyd gan Gynghorau Tref & Chymuned wedi bod yn ddigon sych – rydyn ni’n troi hynny ar ei ben, ac yn ei wneud yn llawer mwy hwyliog a diddorol ac yn canolbwyntio ar ddatblygu perthnasoedd gwaith gyda phobl ifanc sy’n fwy tebygol o gynnal eu diddordeb dros yr hirdymor. Ar ddiwrnod chwilboeth fel heddiw, ar ôl dysgu beth maen nhw’n ei wneud, beth well na chwympo allan o ganŵ gyda chynghorydd?’

Mynychwyd diwrnod cyntaf Ieuenctid CWBR gan bobl ifanc o gynllun Dyfodolwaith Cyngor Sir Penfro sy’n cynnig hyfforddiant, cyfleoedd datblygu a chefnogaeth arall i bobl ifanc er mwyn datblygu sgiliau a chyflogadwyedd. Ychwanegodd Cynghorydd Hyfforddiant Dyfodolwaith Rachel Williams-Smith ‘Tyfodd hyder a hunan-barch y grŵp ac maen nhw’n edrych ymlaen at yr ail ddiwrnod gweithgareddau lle y byddan nhw’n mynd ar daith canŵ i lawr y Teifi ac yn ceisio goresgyn nifer o heriau ar y daith’.

Dywedodd Emyr John o Un Llais Cymru “Mae’n wych gweld pobl ifanc yn gweithio gyda chynghorwyr lleol a gwirfoddolwyr ar y prosiect Ieuenctid CWBR arbennig hwn. Mae’r grŵp wedi dysgu am rôl bwysig Cynghorau Tref & Chymuned Sir Benfro, ac wedi dod i ddeall llawer mwy am etholiadau lleol a sut i gysylltu â chynghorydd lleol”.

Mae Ieuenctid CWBR yn brosiect dwy flynedd sy’n rhedeg tan fis Mai 2024. Trefnwyd rhagor o weithgareddau ar gyfer ardaloedd Hwlffordd, Aberdaugleddau a Phenfro yn ystod mis Awst. Gall unrhyw bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, neu Gynghorwyr Tref a Chymuned o unrhyw oed sy’n awyddus i gymryd rhan yng ngweithgareddau prosiect Ieuenctid CWBR gysylltu â Tom Moses yn PLANED ar tom.moses@planed.org.uk / 07810 228526, neu i gael mwy o wybodaeth ewch i wefan PLANED (www.planed.org.uk) neu ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle