Dathlwch Wythnos Caru Cig Oen gyda’r cyfle i ennill profiad ciniawa bythgofiadwy

0
231
Gareth Ward

PGI WL GI

  • Cyfle i ennill swper i ddau a llety am noson yn un o fwytai mwyaf unigryw’r DU, Bwyty ac Ystafelloedd Ynyshir, Machynlleth.
  • Mae Wythnos Caru Cig Oen, 1-7 Medi, yn ei hwythfed flwyddyn, yn tynnu sylw at ‘gynaliadwyedd cynhyrchiant defaid y DU, tra hefyd yn atgoffa defnyddwyr o’r blas a’r ansawdd eithriadol y mae cig oen y DU yn ei roi i’r bwrdd bwyta.’

Mae Hybu Cig Cymru a Bwyty ac Ystafelloedd Ynyshir ym Machynlleth, a gafodd ei goroni’n ddiweddar yn ‘Fwyty Cenedlaethol y Flwyddyn 2022’ yn lansio cystadleuaeth arbennig i ddathlu Wythnos Caru Cig Oen, 1-7 Medi.

Bellach yn ei hwythfed flwyddyn, mae Wythnos Caru Cig Oen yn dathlu popeth sy’n ymwneud â chig oen ac eleni mae’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd cynhyrchu defaid yn y DU.

Mae gan Gymru stori arbennig o dda i’w hadrodd, gan fod defaid yn cael eu magu i raddau helaeth iawn ar adnoddau naturiol, fel glaswellt a dŵr glaw, ac mae 80% o’i thir fferm yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau, sy’n golygu mai magu da byw yw’r ffordd fwyaf effeithlon o droi tir ymylol yn fwyd o safon. Hefyd, mae glaswelltir ym mryniau Cymru yn dal carbon o’r atmosffer, gyda ffermwyr yn ei reoli trwy gyfuniad o arferion traddodiadol oesol ynghyd â dulliau mwy modern.

Gyda safonau uchel o hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli tir pori, mae ffermydd teuluol yng Nghymru wedi helpu i warchod y dirwedd unigryw ers cenedlaethau. Dyma un o’r rhesymau pam mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru wedi ennill y statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) clodwiw gan y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth y DU.

I nodi dathliad cig oen eleni, mae cystadleuaeth arbennig yn cael ei lansio sy’n cynnig swper i ddau a llety am noson ym Mwyty ac Ystafelloedd Ynyshir. Dyma’r bwyty sydd â’r mwyaf o wobrau yng Nghymru, mae ganddo ddwy seren Michelin, pum rhoséd AA, mae wedi’i enwi ymhlith 5 uchaf y Good Food Guide ac, yn fwy diweddar, fe’i coronwyd yn Fwyty Cenedlaethol y Flwyddyn 2022.

Wedi’i ddisgrifio gan arweinlyfr Michelin fel un sy’n “wirioneddol angerddol am gig, yn ei drin â gwybodaeth a gofal”, mae’r cogydd-berchennog Gareth Ward yn ymfalchïo yn y ffaith nad oes “dim rheolau, dim canllawiau” iddo ac mai’r cyfan mae’n ei ofyn gan y rhai sy’n bwyta yn ei fwyty yw i ddod yno gyda ‘meddwl agored ac yn barod am brofiad bwyd ymdrochol.’

Mae Gareth yn gwybod beth sydd ei angen i wneud pryd eithriadol, ac mae’r cynnyrch lleol mae’n ei weini yn y bwyty yn ei wneud hyd yn oed yn fwy gwerth chweil. Dywedodd,

Ynyshir Restaurant and Rooms

“Angerdd y ffermwyr, y tir mae eu hanifeiliaid yn cael eu magu arno a’r glaswellt maen nhw’n ei fwyta – mae’r rhain yn cyfuno i greu cynnyrch unigryw.

“Rwy’n cael mwynhad arbennig o goginio Cig Oen Cymru oherwydd rwy’n gweld angerdd ac ymroddiad y ffermwyr – wythnos ar ôl wythnos. Mae ei gynhyrchu’n ganolog i’w bywyd a daw hyn i gyd drwodd yn y blas.

“Mae cefnogi cynnyrch a chynhyrchwyr lleol yn wirioneddol bwysig i ni yma ac yn rhan fawr o’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Os oes gennyn ni gynnyrch cystal â Chig Oen Cymru ar garreg ein drws, pam chwilio yn unrhyw le arall?”

Wrth siarad am ymgyrch Wythnos Caru Cig Oen eleni, dywedodd Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu’r Farchnad yn Hybu Cig Cymru:

“Rydyn ni’n gwybod o’n gwaith blaenorol gyda Gareth ac Ynyshir eu bod nhw’n hyrwyddwyr angerddol dros Gig Oen Cymru, ac rydyn ni’n falch iawn o fod wedi ymuno â nhw i gynnig y wobr wych hon.

“Mae Wythnos Caru Cig Oen yn ffordd wych o atgoffa pobl am waith caled ac ymroddiad ein ffermwyr. Fel mae digwyddiadau byd-eang yn ei ddangos ar hyn o bryd, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cynhyrchu cymaint o’n bwyd ein hunain â phosibl, ac mae’r amodau amgylcheddol sydd gennyn ni yng Nghymru yn golygu ein bod yn un o’r lleoedd mwyaf cynaliadwy yn y byd i gynhyrchu cig oen o’r ansawdd gorau.”

Mae manylion llawn ar sut i gymryd rhan yn y gystadleuaeth ar gael yn eatwelshlamb.com/gareth-ward


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle