Y cyngor yn lansio ymgyrch i helpu preswylwyr yn dilyn ei alwad ar Lywodraeth y DU i wneud mwy

0
630

Ar ôl cefnogi’n gryf galw Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Lywodraeth y DU i weithredu ar yr argyfwng costau byw yr wythnos diwethaf, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi lansio ymgyrch newydd i helpu preswylwyr yn ystod y cyfnod anodd sydd o’n blaenau.

Mae’r cyngor yn gweithio’n agos gyda sefydliadau partner lleol i sicrhau bod yr holl gymorth ariannol ar gael mewn un lle i sicrhau bod preswylwyr yn gwybod pa gymorth sydd ar gael eisoes a sut i gael mynediad ato.

Maer dudalen (www.npt.gov.uk/Helpgydachostaubyw) yn cynnwys gwybodaeth am bethau fel:  

  • yr help y gallwch ei gael i dalu’r costau sy’n gysylltiedig ag anfon eich plentyn i’r ysgol;  
  • sut i gael gwybod pa fudd-daliadau y mae gennych hawl i’w cael a sut i’w hawlio; 
  • cyllid gofal plant;  
  • ffyrdd o leihau eich biliau ynni;  
  • a chyngor ar reoli eich arian. 

Yn ogystal â’r dudalen we, bydd taflen ‘help gyda chostau byw’ ar gael i’r rhai nad ydynt ar-lein, a fydd yn cynnwys rhifau ffôn ar gyfer pob un o’r gwasanaethau cymorth.

Ar ben hynny, yr hydref hwn bydd y cyngor yn lansio Cronfa Rhyddhad Caledi mewn partneriaeth â Cymru Gynnes, sef cwmni buddiannau cymunedol sydd â mwy na 15 mlynedd o brofiad ym maes trechu tlodi tanwydd. Bydd pobl yn gallu gwneud cais am gyllid drwy Cymru Gynned am bethau fel gwelliannau i’r cartref er mwyn sicrhau bod eich cartref yn cael ei wresogi’n effeithlon a chymorth arall er mwyn helpu i leihau eich biliau ynni. 

Dywedodd y Cynghorydd Steve Hunt, sef Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Rydym yn deall bod llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd talu eu biliau felly rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu yn ystod yr argyfwng costau byw. 

“Gobeithio y bydd ein hymgyrch yn cyfeirio pobl at y gwasanaethau cywir er mwyn sicrhau y gallant gael help gyda phethau fel costau gofal plant a biliau’r cartref. 

“Mae miloedd o bobl ledled Cymru yn peidio â hawlio’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl i’w cael bob blwyddyn ac, fel rhan o’r ymgyrch hon, rydym hefyd yn annog pobl i edrych i weld beth sydd ar gael iddynt. 

“Yn ychwanegol at hyn, bydd ein Cronfa Rhyddhad Caledi gwerth £2m yn lansio yn yr hydref er mwyn helpu’r rhai sydd fwyaf mewn angen. Bydd y Gronfa’n cynnig cymorth i bobl mewn perthynas â gwresogi eu cartrefi a chostau ynni.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr help sydd ar gael, ewch i www.npt.gov.uk/HelpGydaChostauByw.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle