Mwy o ddiffibrilwyr sy’n achub bywydau ar gyfer gorsafoedd ledled Cymru a’r gororau

0
314

Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gyflwyno diffibrilwyr sy’n achub bywydau mewn gorsafoedd ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.

Y gwaith hwn yw cam diweddaraf y cynlluniau i osod dros 200 o ddiffibrilwyr mewn gorsafoedd a chymunedau ledled Cymru a’r gororau, a ddechreuodd ym mis Chwefror 2022.

Mae diffibrilwyr yn ddyfeisiau symudol pwysig sy’n achub bywydau. Maent yn gallu rhoi sioc drydanol i galon claf pan fydd y galon wedi stopio curo, fel arfer o ganlyniad i ataliad sydyn ar y galon. Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, mae oddeutu 2,800 o ataliadau ar y galon y tu allan i’r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn, ond dim ond un o bob 20 o bobl sy’n goroesi.

Mae cyfraddau goroesi yn gostwng 10% bob munud heb CPR neu ddiffibriliwr ac mae defnyddio diffibriliwr o fewn tri munud i ataliad ar y galon yn gallu golygu bod rhywun hyd at 70% yn fwy tebygol o oroesi.

Pan fyddant yn barod i’w defnyddio, bydd y diffibrilwyr yn cael eu cofrestru ar borth pwrpasol Sefydliad Prydeinig y Galon, o’r enw The Circuit, mewn partneriaeth ag Ambiwlans Sant Ioan, Cyngor Dadebru y DU a Chymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlansys. Mae The Circuit yn mapio diffibrilwyr ar gyfer gwasanaethau ambiwlans y GIG ledled y DU er mwyn iddynt allu cyfeirio aelodau o’r cyhoedd at y diffibriliwr agosaf yn gyflym yn y munudau tyngedfennol ar ôl ataliad ar y galon.

Embedded video on YouTube

Dywedodd Lisa Cleminson, Cyfarwyddwr Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru:

“Rydyn ni’n falch o gyflwyno diffibrilwyr ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau. Mae’r blychau melyn hyn yn hollbwysig i helpu’r rheini sy’n cael ataliad ar y galon, boed nhw’n gwsmeriaid TrC, yn gydweithwyr neu’n aelodau o’r gymuned leol.

“Mae gennym ni ddiffibrilwyr mewn llawer o’n gorsafoedd ar draws ein rhwydwaith yn barod, a bydd y peiriannau newydd ychwanegol hyn yn adnoddau gwerthfawr sy’n achub bywydau.”

“Rydyn ni’n annog cwsmeriaid a’r gymuned i’n cefnogi i gadw’r offer hwn yn ddiogel drwy fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod i Heddlu Trafnidiaeth Prydain am unrhyw achosion o fandaliaeth ar unwaith drwy anfon neges destun i 61016.”

Mae’r prosiect wedi cael ei drefnu gan Karl Gilmore, sef Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC, a ychwanegodd: “Bydd yr holl ddiffibrilwyr ar gael 24 awr y dydd ond, yn bwysicach na dim, bydd pob un yn cael ei restru ar The Circuit er mwyn i staff y gwasanaethau brys wybod ble maen nhw.

“Bydd ein staff yn cael hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r diffibrilwyr ac rydyn ni’n gweithio gydag elusennau a sefydliadau eraill i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cyflwyno hyfforddiant i gymunedau.”

Dywedodd Antony Kelly, Cyfarwyddwr Adeiladu Egis:

“Dim yn aml y byddwch yn cael gweithio ar brosiect sy’n cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl, ac yn sicr nid un sy’n gallu achub bywydau’n uniongyrchol. Rydw i’n falch iawn o arwain ein hadran adeiladu yn Egis Transport Solutions, gan weithio ar ran tîm Gwella Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru i osod diffibrilwyr sy’n achub bywydau mewn gorsafoedd ar draws rhwydwaith Cymru.

“Ar ôl teimlo’n bersonol effaith aelod agos o’r teulu a fu farw o ataliad ar y galon, mae hyd yn oed yn fwy siomedig clywed bod y diffibrilwyr y mae TrC yn buddsoddi ynddyn nhw’n cael eu fandaleiddio. Mae’r unedau hyn yma i achub bywydau, efallai y bydd angen un arnoch chi neu aelod o’ch teulu, ac ni fyddwch yn gwybod pryd y bydd hynny. Os byddwn yn gweld hyn yn digwydd ar y rhwydwaith, boed ar ddyletswydd ai peidio, rydw i’n annog pawb i’w reportio a helpu i ddiogelu’r asedau hyn. Mae’n drosedd.

“Mae Egis wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod y neges hon yn cyrraedd y rheini sydd angen ei chlywed, a gyda chefnogaeth ein cydweithwyr yn TrC, rydyn ni’n awyddus i ddatblygu rhai rhaglenni allgymorth i helpu i gyfleu’r neges i’r gymuned


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle