Cleifion arennol Ysbyty Glangwili yn elwa o sganiwr uwchsain newydd diolch i gronfeydd elusenno

0
412
Glangwili Hospital Credit HDUH

Mae cleifion sy’n cael dialysis yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn profi manteision sylweddol sganiwr uwchsain newydd a brynwyd gydag arian elusennol. Mae’r sganiwr wedi galluogi’r Uned Dialysis Arennol i ddarparu eu gwasanaeth yn lleol a lleihau’r amser teithio i gleifion dialysis.

Er mwyn cael dialysis, rhaid rhoi ffistwla arteriovenous (AVF) i gleifion arennol sy’n rhoi mynediad i’r system waed. Tramwyfa rhwng rhydweli a gwythïen yw AVF a grëir yn llawfeddygol ar gyfer triniaethau dialysis.

Er mwyn sicrhau bod dialysis yn effeithiol mae angen asesu’r AVFs yn rheolaidd. Dyma lle mae’r sganiwr uwchsain newydd yn dod i mewn: mae’n rhoi modd i staff ddelweddu’r AVFs a mesur pa mor dda y maent yn gweithio.

Yn flaenorol, roedd yr Uned Dialysis Arennol yng Nglangwili yn defnyddio sganiwr uwchsain ar fenthyg am gyfnodau cyfyngedig o Ysbyty Treforys yn Abertawe. Fel arall, roedd asesu’r AVFs yn golygu ymweliadau ag Ysbyty Treforys. Roedd hyn yn creu heriau gwirioneddol i gleifion a oedd yn aml yn fregus ac yn cael y teithio ychwanegol yn anodd.

Diolch i roddion hael i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae Uned Dialysis Arennol Glangwili wedi gallu prynu ei sganiwr ei hun.

Dywedodd Delyth Timmis, Uwch Reolwr y Clinig: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu prynu’r sganiwr uwchsain gyda chronfeydd elusennol. Mae’n sicrhau manteision gwirioneddol i gleifion a staff, gan sicrhau bod pobl yn gallu derbyn triniaeth mor agos i’w cartrefi â phosibl, ac yn ein galluogi i asesu cleifion o fewn yr uned.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae’r sganiwr yn dangos sut y gall rhoddion wneud gwahaniaeth sylweddol i brofiad y claf trwy ddarparu offer a thechnoleg effeithiol i’r GIG lleol.

“Diolch yn fawr iawn i bob rhoddwr i elusen y GIG – rydych chi’n gwneud pryniannau fel hyn yn bosibl.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle