Elusen y GIG yn prynu peiriant uwchsain gwerth £8,000 ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg

0
441
Ultrasound for Withybush

Diolch i’ch rhoddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu peiriant uwchsain dwysedd uchel sy’n costio dros £8,000 i helpu cleifion yn Ysbyty Llwynhelyg.

Uchod: Yn y llun gyda’r offer newydd mae’r Podiatryddion Jack Loveday (chwith) a Conrad Anderson

Bydd y peiriant tonnau sioc yn helpu cleifion â phroblemau cyhyr a thendon a bydd yn cael ei ddefnyddio mewn clinigau podiatreg, ffisiotherapi ac orthopedig.

Dywedodd Mike Mulroy, Pennaeth Podiatreg: “Mae tystiolaeth sylweddol y gall tonnau sioc, uwchsain dwysedd uchel fod yn effeithiol iawn ar gyfer materion cyhyrau, megis problemau tendon Achilles, ysgwydd wedi rhewi, penelin golff a thenis a ffasgitis plantar.

“Mae therapi siocdon yn darparu tonnau sioc i ardal yr effeithir arni, gan gynyddu llif y gwaed a metaboledd a chyflymu proses iachau naturiol y corff.

“Bydd cael y peiriant hwn wedi’i leoli yn Ysbyty Llwynhelyg yn golygu y gall cleifion gael eu trin yn lleol, yn hytrach na gorfod teithio.

“Diolch yn fawr iawn am y rhoddion sydd wedi gwneud y pryniant hwn yn bosibl gan y bydd yr offer yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i brofiad y claf.”

Yn y llun gyda’r offer newydd mae’r Podiatryddion Jack Loveday (chwith) a Conrad Anderson.

Os hoffech ragor o wybodaeth am yr elusen a sut y gallwch gymryd rhan, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle