Bydd arwerthiant ŵyn elusennol yn wych!

0
326
Uchod: Monica Davies

Syniad codi arian newydd gan y ffermwr Monica Davies sy’n cynnal ocsiwn ŵyn i godi arian at Apêl Cemo Bronglais.

Mae Monica yn apelio am roddion o ŵyn ar gyfer yr arwerthiant, sy’n cael ei gynnal yn ystod arwerthiant defaid Aled Ellis ar safle mart Lovesgrove, ger Aberystwyth, ddydd Sadwrn, 8 Hydref.

Dywedodd Monica ei bod am godi arian i’r Apêl ar ôl treulio sawl mis yn cael cemotherapi yn Ysbyty Bronglais yn dilyn diagnosis o ganser.

“Rwy’n ddiolchgar i Dr Elin Jones a’i staff anhygoel am edrych ar fy ôl. Mae’r uned cemotherapi yn agos at fy nghalon ac rwy’n sylweddoli pa mor bwysig yw hi a pha mor lwcus ydym i gael uned o’r fath yn Ysbyty Bronglais,” ychwanegodd Monica, 58, sy’n byw ar fferm y teulu yn Llanilar.

“Nawr mae angen uned fwy modern, bwrpasol, roeddwn i eisiau helpu gyda’r Apêl i roi

rhywbeth yn ôl a dweud diolch.”

Dylai unrhyw ffermwr a hoffai roi oen gysylltu â Monica ar 07792 188612.

Gallwch hefyd gyfrannu at dudalen codi arian Monica yma: https://www.justgiving.com/fundraising/monica-davies

Nod Apêl Cemo Bronglais yw codi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais, er mwyn gwella profiad y claf yn fawr..

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle