Rydym yn siarad gyda Jane Jones o Lanarth, cyn athrawes wedi ymddeol, sydd wedi bod o dan ofal tîm Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Bronglais ers dros ddegawd
Roedd fy ngŵr Ken a minnau yn Awstralia ar gyfer priodas fy mab iau Rhodri, sy’n byw allan yna, pan ddatblygais i beswch.
Yn ôl adref, es i at y meddyg teulu i weld a oedd y peswch yn gysylltiedig â’r feddyginiaeth
roeddwn i’n ei chymryd i wella dwysedd fy esgyrn. Datgelodd profion brotein annormal yn fy ngwaed a chefais fy atgyfeirio at yr Adran Haematoleg yn Ysbyty Bronglais.
Roeddwn i’n cael fy monitro gan fod presenoldeb protein o’r fath yn gallu arwain at ganser y gwaed a dyma ddigwyddodd i mi, gyda cael diagnosis myeloma lluosog yn 2011.
Daeth y diagnosis o unman. Doeddwn i ddim yn teimlo’n sâl o gwbl.
Dechreuais driniaeth yn yr uned ddydd cemotherapi yn fuan wedyn ac ni allaf ganmol digon ar y staff. Roedden nhw’n wych bryd hynny ac maen nhw’n dal i fod.
Gallaf gofio fy nhro cyntaf ar yr uned. Fe’m dangoswyd i mewn i ystafell ddydd a oedd yn eithaf bach, gyda’r cadeiriau i gleifion i gyd yn agos at ei gilydd.
Unwaith y mis, byddwn yn cael trwyth hanner awr o Zometa i helpu i gryfhau fy esgyrn ac yn cael tabledi cemotherapi i’w cymryd gartref am dair wythnos o bob pedair.
Rwy’n cofio mynd i’r hen uned nifer o flynyddoedd yn ôl ac roedd dŵr yn dod drwy’r nenfwd, felly roedd yn rhaid symud y cleifion i rywle arall yn yr ysbyty. Roedd ychydig mwy o le yn ein cartref newydd a dyna lle mae’r uned ddydd wedi aros hyd heddiw.
Mae’r staff bob amser yn gyfeillgar iawn. Yn ystod y driniaeth, rydw i’n sgwrsio â rhai o’r cleifion os ydyn nhw’n dymuno, fel arall rydw i’n darllen llyfr. Mae staff bob amser yn barod i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, er eu bod bob amser yn brysur iawn.
Fe wnes i barhau â thriniaeth cemotherapi am tua blwyddyn ac yna argymhellwyd cael trawsblaniad bôn-gelloedd yn Ysbyty Singleton yn Abertawe.
Ar ôl y trawsblaniad, roeddwn i mewn gwellhad am chwe blynedd. Nid oedd unrhyw driniaeth, dim ond archwiliadau bob ychydig fisoedd.
Yna dechreuodd y lefelau protein godi eto a bu’n rhaid i mi ailddechrau’r driniaeth yn yr uned ddydd.
Parhaodd hyn tan ddechrau 2020 pan darodd COVID. Yn ffodus, bu gwelliant yn fy lefelau eto a llwyddais i roi’r gorau i driniaeth am bron i ddwy flynedd. Nawr rydw i wedi dechrau ar gemotherapi cynnal a chadw, sy’n golygu fy mod yn ôl yn yr uned ond gyda dosau llai.
Rwy’n siŵr y bydd uned cemotherapi newydd yn gwneud llawer o wahaniaeth i lawer o gleifion. Ar adegau penodol yn yr uned bresennol, pan fyddwch yn cael triniaeth, mae pobl yn cerdded drwodd i gyrraedd adrannau eraill, sydd braidd yn anniddig.
Bydd uned bwrpasol yn wych i gleifion ac i staff.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle