Her Cestyll a Chopaon yn codi £2,250 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

0
235
Uchod: Yn y llun mae Karen ac Ian yn trosglwyddo'r siec i Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda, sy'n rhedeg yr Apêl

Llongyfarchiadau mawr i Karen Kemish ac Ian Brandreth am gyflawni her enfawr cestyll a chopaon a chodi £2,250 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

Mewn dim ond dau ddiwrnod, fe feiciodd y ddau o Aberystwyth rhwng cestyll Caernarfon a Chaerdydd a dringo tri chopa Cymru, sef yr Wyddfa, Cader Idris a Phen y Fan ar y ffordd.

Dywedodd Karen: “Roedd yn gyfanswm o 200 milltir o feicio a 22,500 troedfedd o ddringo, yn eithaf caled mewn mannau ond fe wnaethom fwynhau’n fawr.

“Cawsom gefnogaeth wych ar hyd y ffordd ac roedd pobl mor hael gyda’u rhoddion.”

Yn anffodus collodd Karen ac Ian eu mamau i ganser ac roedden nhw eisiau codi arian i gefnogi cleifion.

Ychwanegodd Karen: “Cawsom y syniad o wneud her i helpu Apêl Cemo Bronglais a Hosbis Katherine House oherwydd bod y ddau achos hyn yn agos iawn at ein calonnau. Roedd yn wych gallu rhoi £2,250 iddynt.”

Dywedodd Ian: “Bydd uned ddydd cemotherapi newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl sy’n agored i niwed yn glinigol. Mae cael uned yn lleol yn lleihau’r straen o deithio’n bell i gael triniaeth.”

Dywedodd y ddau eu bod am ddiolch i’w tîm cefnogi gan gynnwys Anita ac Andrew Kinsey, Pat Riley a Beth Riley, a oedd wrth gefn trwy gydol eu hantur epig.

Yn y llun mae Karen ac Ian yn trosglwyddo’r siec i Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda, sy’n rhedeg yr Apêl.

I gael rhagor o wybodaeth am Apêl Cemo Bronglais, sydd â’r nod o godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen i ddechrau adeiladu uned ddydd cemotherapi newydd, bwrpasol ar gyfer Ysbyty Bronglais, ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle