Dwy orymdaith ac wythnos o ddathlu i nodi Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023

0
304

Y penwythnos yma bydd Caerfyrddin yn troi’n fôr o goch, gwyn a gwyrdd wrth i ysgolion a chymunedau ddathlu Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.

Wedi tair blynedd hir o ddisgwyl mae Sir Gaerfyrddin yn barod i groesawu Eisteddfod yr Urdd 2023.  Yn draddodiadol byddai Gŵyl Gyhoeddi yn ddathliad un diwrnod wrth i ysgolion y Sir ddod at ei gilydd i orymdeithio drwy dref neu bentref.  Ond nid eleni.  Dros yr wythnos nesaf bydd dwy orymdaith a llu o weithgareddau eraill yn cael eu cynnal wrth i Bwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd 2023 sicrhau cyfle i bawb i ymuno yn yr hwyl. 

Bydd y dathliad cyntaf yn cael ei gynnal Ddydd Sadwrn (17eg Medi) wrth i filoedd o blant a phobl ifanc yr ardal orymdeithio drwy dref Caerfyrddin.  Am 11yb bydd miloedd o blant a phobl ifanc lleol yn gorymdeithio drwy’r dref tuag at y parc, gan estyn croeso cynnes i Eisteddfod yr Urdd i’r ardal. Wedi’r orymdaith bydd dathliad yn y parc i’r teulu cyfan gan gynnwys stondinau, chwaraeon, dawnsio ac adloniant byw.

Nos Sadwrn yr 17eg am 8yh, bydd gig gyda Fflur Dafydd ac Einir Dafydd yng Nghlwb y Cwins, Caerfyrddin, a bydd Cymanfa Ganu arbennig yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman am 6yh nos Sul.

Ond nid dyna’r cyfan. Mae Pwyllgor Gwaith Sir Gaerfyrddin wedi trefnu ail orymdaith yn Llanymddyfri i gloi’r Ŵyl ar y 24ain o Fedi, sef y dref fydd yn croesawu Maes yr Eisteddfod, gan estyn croeso a chyfle i bawb i ymuno yn y dathlu.

Ynghanol y cyffro bydd cyfle arbennig i dynnu llun ar Fainc Hunlun Mistar Urdd i nodi’r achlysur.  Mae hyn yn gyfle i blant a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin gymryd rhan yng nghystadleuaeth Hunlun Mistar Urdd i drio ennill ymweliad gan y fainc i dref neu bentref lleol.  I gystadlu yn y gystadleuaeth, oll sydd angen ei wneud yw postio llun o’r fainc ar dudalen gymdeithasol gan gofio nodi #HunlunMistarUrdd.

Dywedodd Carys Edwards, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Yr Urdd 2023: 

“Am y tro cyntaf erioed bydd ail orymdaith yn cael ei chynnal i gloi’r Ŵyl Gyhoeddi ar ddydd Sadwrn 24ain o Fedi yn Llanymddyfri.  Rydym yn awyddus iawn i sicrhau fod pob plentyn a pherson ifanc yn Sir Gâr yn cael y cyfle i fod yn rhan o’r Ŵyl arbennig hon; ac felly yn gwahodd pawb i fod yn rhan o’r Ŵyl Gyhoeddi, ar draws y Sir gyfan. 

“Mae cyffro mawr yn tyfu ar hyd y Sir wrth i ni agosáu at groesawu Eisteddfod yr Urdd 2023 i’r ardal.  Edrychwn ymlaen at ddathlu cyhoeddiad yr Ŵyl, a chroesawu Urdd Gobaith Cymru i Sir Gâr dros yr wythnos nesaf.”

Ar drothwy’r Ŵyl Gyhoeddi, mae Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau yn diolch i’r gwirfoddolwyr:

“Nid ar chwarae bach mae trefnu a chynnal Gŵyl Gyhoeddi nac Eisteddfod.  Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Gwaith, i’r plant a phobl ifanc a’r holl wirfoddolwyr yn eu cymunedau am eu hymroddiad ar ôl yr holl brysurdeb yn dewis testunau, trefnu gweithgareddau a chasglu arian er mwyn croesawu a chynnal Eisteddfod yr Urdd 2023 i Sir Gaerfyrddin.

“Fel Mudiad rydym yn edrych ymlaen at ddathlu Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin gan weld holl blant a phobl ifanc yr ardal yn gorymdeithio – nid unwaith, ond dwywaith – yn ystod yr Ŵyl. Ac wrth gwrs byddwn yn cyhoeddi Rhestr Testunau yr Eisteddfod, fydd yn faes llafur cyffrous i ganghennau’r Urdd drwy Gymru gyfan.”

Am restr lawn neu fwy o wybodaeth, ewch i wefan Urdd Gobaith Cymru neu ddilyn tudalen Facebook Eisteddfod yr Urdd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle