Yn dilyn cadarnhad y bydd dydd Llun, 19 Medi, yn Ŵyl y Banc i nodi Angladd Gwladol y Frenhines, mae’r Bwrdd Iechyd yn cysylltu â’r holl gleifion i gadarnhau neu aildrefnu eu hapwyntiadau, yn dibynnu ar y gwasanaeth sydd ar gael. Er y bydd yr holl wasanaethau brys yn gweithredu fel arfer, mae angen i ni addasu rhai elfennau o’n gwasanaethau gofal wedi’i gynllunio a blaenoriaethu cleifion ag anghenion gofal brys lle bynnag y bo modd.
Bydd ein Hunedau Cemotherapi yn gweithredu fel arfer ddydd Llun a bydd rhai llawdriniaethau ar gyfer achosion brys yn cael eu cynnal yn ein hysbytai.
Pan fydd angen aildrefnu apwyntiadau, bydd y tîm perthnasol yn cysylltu â chleifion dros y dyddiau nesaf i aildrefnu eu hapwyntiad cyn gynted â phosibl. Mewn rhai achosion, gall hyn olygu dod ag apwyntiadau ymlaen i’r wythnos hon. Bydd rhai apwyntiadau cleifion allanol wyneb yn wyneb yn dal i fynd rhagddynt, ac efallai y bydd rhai yn cael eu cynnal fel apwyntiad ar-lein/rhithwir ddydd Llun.
Os oes gennych apwyntiad ddydd Llun, ac nad ydym wedi cysylltu â chi erbyn 1pm ddydd Gwener, cysylltwch â hyb cyfathrebu’r bwrdd iechyd ar 0300 3038322 neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth ac arweiniad. Mae staff yr hyb cyfathrebu ar gael i ateb galwadau rhwng 10am-4pm ddydd Sadwrn, a 10am-3pm ar ddydd Sul a dydd Llun Gŵyl y Banc. Rydym yn cysylltu â phob claf dros y ffôn neu drwy neges destun, gwiriwch eich ffôn am unrhyw negeseuon.
Gan y bydd meddygfeydd a’r rhan fwyaf o Fferyllfeydd Cymunedol a Gwasanaethau Deintyddol ar gau ddydd Llun, bydd gwasanaeth tu allan i oriau Gŵyl y Banc yn cael ei ddarparu. Anogir unigolion sydd angen presgripsiynau rheolaidd i’w trefnu ymlaen llaw.
Bydd yr holl wasanaethau brys yn parhau fel arfer. Os ydych chi’n sâl ac yn ansicr beth i’w wneud, gallwch ymweld â’r wefan gwiriwr symptomau neu ffonio GIG 111. Bydd yr Unedau Mân Anafiadau ar safleoedd ysbytai acíwt ar agor fel arfer. Gellir dod o hyd i oriau agor ar gyfer gwasanaethau cerdded i mewn cymunedol ar wefan y bwrdd iechyd. Ewch i Adran Achosion Brys, neu ffoniwch 999, os oes gennych salwch sy’n peryglu bywyd neu anaf difrifol, fel:
• Anawsterau anadlu difrifol
• Poen difrifol neu waedu
• Poen yn y frest neu amheuaeth o strôc
• Anafiadau trawma difrifol (e.e. yn dilyn damwain car).
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir a diolch am eich cefnogaeth a’ch amynedd.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle