Canmol cigyddion Cymru am safon eu hymddangosiad cyntaf yn Her Cigyddion y Byd

0
567
Ben Roberts â gwobr efydd Pencampwriaeth y Byd ar gyfer Prentisiaid Cigyddion.

Mae un o Weinidogion Llywodraeth Cymru wedi canmol ymroddiad a sgiliau aelodau Tîm Cigyddiaeth Crefft Cymru yn dilyn eu hymddangosiad cyntaf llwyddiannus yn Her Cigyddion y Byd yn Sacramento, Califfornia yn ddiweddar.

Daeth un aelod o’r tîm, Ben Roberts, 30, o M. E. Evans Butchers, Owrtyn ger Wrecsam, yn drydydd ym Mhencampwriaeth y Byd ar gyfer Prentisiaid Cigyddion a chadarnhawyd yr wythnos hon fod y tîm wedi dod yn chweched o blith 13 o wledydd yng ‘Ngemau Olympaidd y Cig’.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru:  “Llongyfarchiadau enfawr i Ben a’r tîm. Mae ganddyn nhw le i ymfalchïo yn eu camp yn cynrychioli Cymru yn Her Cigyddion y Byd.

“Mae eu hymroddiad i’r grefft yn amlwg a bydd y profiad o gystadlu ar lwyfan byd-eang yn amhrisiadwy iddyn nhw.”

Ffurfiwyd Tîm Cigyddiaeth Crefft Cymru yn 2020 ac mae’n rhan o Gymdeithas Goginio Cymru (CAW). Mae’r rheolwr, Steve Vaughan o Ben-y-ffordd, ger Wrecsam, yn gigydd wedi ymddeol sy’n feirniad profiadol.

Tîm Cigyddiaeth Crefft Cymru yn chwifio’r faner ar ôl cwblhau’r gystadleuaeth.

Dywedodd Arwyn Watkins OBE, llywydd CAW: “Roedd yn gamp eithriadol i Dîm Cymru orffen yn chweched yn y byd ac i Ben ddod yn drydydd yn yr ornest i brentisiaid cigyddion ar y cynnig cyntaf. 

“Mae aelodau’r tîm wedi dweud wrtha i pa mor falch oedden nhw o gerdded ar lwyfan y byd gyda baner Cymru i gynrychioli eu gwlad yn eu crefft.”

Roedd gweld Cymru’n ymddangos yn Her Cigyddion y Byd am y tro cyntaf fel gwireddu breuddwyd i Mr Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian sy’n darparu prentisiaethau ar gyfer cigyddion yng Nghymru.

“Fe gymerodd ymdrech enfawr a blynyddoedd lawer o berswâd i sicrhau tîm o gigyddion crefft i gynrychioli Cymru yn Her Cigyddion y Byd,” meddai. “Dechreuodd y cyfan â gornest Cigydd Ifanc y Flwyddyn Cymru ac roedden ni bob amser yn dyheu am weld cigyddion o Gymru’n cystadlu ar lwyfan y byd.

“Pan sylweddolon ni nad oedden ni’n mynd i gyflawni ein huchelgais trwy gystadleuaeth WorldSkills UK, fe benderfynon ni edrych ar lwybr arall, a arweiniodd at Her Cigyddion y Byd.

“Yn awr, mae Tîm Cymru wedi gosod y sylfeini ar gyfer y dyfodol a’r gobaith yw y bydd hyn yn helpu i ddenu rhagor o bobl i’r diwydiant wrth i’r grefft gael ei chydnabod. Mae wedi golygu llawer iawn o amser ac ymroddiad i’r tîm ac rwy’n falch iawn o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd.”

Dywedodd cydlynydd y tîm, Chris Jones, pennaeth uned busnes bwyd a diod Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ei fod ef a’r tîm “ar ben eu digon” o ddod yn chweched, yn uwch na gwledydd llawer mwy.

“Mae’n gydnabyddiaeth o’u holl waith caled a’u hymroddiad.  Mae pob un yn gigyddion da, yn deall eu crefft ac wedi cystadlu o’r blaen.  Gosodwyd sylfaen dda i adeiladu arni ac rydyn ni’n gwybod ble wnaethon ni golli pwyntiau, sy’n hawdd ei gywiro.”

Wrth sôn am fedal efydd Ben, meddai:  “Mae’n werth ei bwysau mewn aur.  Yn ogystal â gweithio mor galed ar gyfer ei gystadleuaeth ei hun, a dalodd ar ei ganfed, bu’n cefnogi’r tîm trwy fynychu pob practis i ddysgu’r holl sgiliau rhag ofn y byddai’n rhaid iddo gamu i mewn ar y funud olaf.””

Gwnaeth cigyddion Cymru lawer o ffrindiau newydd yn y gystadleuaeth.  “Rydyn ni wedi cael negeseuon hyfryd gan y timau eraill, yn dweud bod dyfodol addawol i dîm Cymru os byddwn ni’n parhau i gystadlu ar y lefel yma,” ychwanegodd Chris.

“Roedd y gystadleuaeth fel un teulu mawr o gigyddion, gyda’r timau i gyd yn helpu ei gilydd os gallent.””

Aelodau Tîm Cigyddiaeth Crefft Cymru yw Peter Rushforth o Innovative Food Ingredients, Lytham St Annes, y capten; Craig Holly, o Chris Hayman Butchers, Maesycwmer, Hengoed; Tom Jones o Jones Brothers, Wrecsam; Matthew Edwards, darlithydd yng Ngholeg Cambria, Cei Connah; Dan Allen-Raftery o Meat Masters Butchers, y Drenewydd; Liam Lewis o Hawarden Farm Shop.

Noddwyr y tîm yw Bwyd a Diod Cymru, yr adran yn Llywodraeth Cymru sy’n cynrychioli’r diwydiant bwyd a diod, Atlantic Service Company o Gasnewydd, AIMS (Association of Independent Meat Suppliers), Hybu Cig Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Innovative Food Ingredients, M. E. Evans Butchers, Dick Knives,  Tiny Rebel a Jones Brothers Farm Shop.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle