Canllaw i fyw’n iach heb fawr o strach

0
209
Chris Roberts, along with Scarlets players Wyn Jones, Jonathan Davies and Josh Macleod

M:\H\Hybu Cig Cymru\Logos\New logos\Horizontal\JPG\PGI WB GI.jpg

Canllaw i fyw’n iach heb fawr o strach

  • Canllaw bwyta’n iach i bobl ifanc wedi cael ei lansio gan chwaraewyr y Scarlets a brenin y barbeciw Chris ‘Flamebaster’ Roberts
  • Mae’r canllaw ar gael yn rhad ac am ddim o siop clwb y Scarlets neu gellir ei lawrlwytho drwy fynd i www.eatwelshbeef.com 

Mae’r Scarlets wedi ymuno â Hybu Cig Cymru (HCC) i gyhoeddi canllaw ffitrwydd a maeth cynhwysfawr i bobl ifanc Cymru.

Lansiwyd y llyfryn mewn digwyddiad arbennig ym Mharc y Scarlets, gyda’r cogydd teledu Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn coginio gwledd i rai o’r chwaraewyr, wrth i’r rhanbarth barhau i gefnogi ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru.

Yn dwyn y teitl ‘Eich canllaw chi i fyw’n iach heb fawr o strach’, mae’r canllaw’n cynnwys ryseitiau iachus, cyngor ar gadw’n heini ac yn egnïol, ac mae’n tynnu sylw at fanteision maethol niferus diet cytbwys gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o ffynonellau lleol.

Ac yntau wedi’i fagu ar fferm wartheg a defaid yn Llanymddyfri, mae prop y Scarlets, Wyn Jones, yn gwybod yn iawn am yr angerdd a’r gwaith caled sy’n cael ei wneud i gynhyrchu cynnyrch lleol o safon fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

Wrth siarad am bwysigrwydd maeth da wrth gefnogi diwydiant amaethyddol Cymru, dywedodd Wyn: “Fel athletwr o Gymru, mae Cig Eidion Cymru yn bwysig i mi ar ddwy lefel. Nid yn unig y mae’n ffynhonnell ardderchog o brotein, yn llawn llawer o fanteision maethol sy’n hanfodol ar gyfer fy adferiad, ond a minnau’n dod o gefndir ffermio, rydw i hefyd yn gwerthfawrogi sut a ble y caiff ei ffermio.

“Mae’n dda gwybod bod Cig Eidion Cymru a Chig Oen Cymru yn cael eu bridio yma, yn lleol i Lanelli ac i mi yn Llanymddyfri. Mae gwybod fy mod yn bwyta cynnyrch lleol, naturiol, o safon sydd wedi derbyn gofal, gyda digon o awyr iach ac yn cael ei fwydo ar laswellt, yn rhywbeth eithaf arbennig.”

Aeth y cogydd barbeciw a seren y teledu, Chris Roberts, draw i Barc y Scarlets i helpu i lansio’r llyfryn a choginio brechdanau stêc Cig Eidion Cymreig iach ar gyfer y chwaraewyr.

Dywedodd Chris: “Y peth gwych am Gig Eidion Cymru yw nad oes rhaid ei lwytho â sawsiau cyfoethog iddo flasu’n dda. Mae stêc Cig Eidion Cymru, fel syrlwyn, yn rhyfeddol, wedi’i sesno’n ysgafn a’i grilio a’i weini gyda salad neu salsa blasus – mae hefyd yn rhyfeddol mewn pryd tro-ffrio cyflym ac iach.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle