Enillydd Hud y Dolydd yn Sioe’r Sir eleni

0
297
Cyflwynwyd gwobr o £25 gan y Cynghorydd Di Clements i Katie Jennings (yr enillydd) a'i chwaer Amy, fel rhan o gystadleuaeth Dolydd Hudolus yn Sioe Sir Benfro eleni. Mwynhaodd yr enillydd daith dywys o amgylch Pentref Oes Haearn Castell Henllys o dan arweiniad aelod o staff Dr David Howells (enw arall – Caerwen!) fel rhan o'r wob

Yn Sioe Amaethyddol Sir Benfro eleni ym mis Awst, dathlwyd 70 mlynedd ers sefydlu Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro drwy arddangos gwaith amrywiol Awdurdod y Parc, gan gynnwys cadwraeth a mynediad at olygfeydd godidog o’r tir a’r arfordir drwy Lwybr Arfordir Penfro.

Roedd panel Hud y Dolydd, a gafodd ei greu gan yr artist lleol, Fran Evans, yn gyfle i ymwelwyr weld amrywiaeth eang o fflora a ffawna bioamrywiol lleol mewn cystadleuaeth, gyda’r enillydd yn cael ei ddewis i ennill gwobr o £25 a diwrnod i’r teulu yn un o safleoedd yr Awdurdod.

Cyflwynwyd gwobr o £25 gan y Cynghorydd Di Clements i Katie Jennings (yr enillydd) a’i chwaer Amy, fel rhan o gystadleuaeth Dolydd Hudolus yn Sioe Sir Benfro eleni. Mwynhaodd yr enillydd daith dywys o amgylch Pentref Oes Haearn Castell Henllys o dan arweiniad aelod o staff Dr David Howells (enw arall – Caerwen!) fel rhan o’r wob

Cyflwynodd Cadeirydd yr Awdurdod, y Cynghorydd Di Clements, siec i’r enillydd, Katie Jennings, ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys.

Dywedodd y Cynghorydd Clements, “Roedd hi’n bleser cwrdd â Katie a’i theulu – mae’r gystadleuaeth, ymysg gweithgareddau eraill yn Sioe eleni a oedd yn cynnwys arddangosfa o wenyn, gwneud printiadau a chanhwyllau cŵyr i blant, a gweithgaredd hyfryd “enw’r blodyn gwyllt”, yn tynnu sylw at y bioamrywiaeth hynod o fregus a chymhleth sydd yn y Parc Cenedlaethol.

I gael rhagor o wybodaeth am Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys gwybodaeth am raglenni ysgolion, cyfleoedd gwirfoddoli, gwybodaeth am gerdded, gwybodaeth am gynllunio a mwy, ewch i www.arfordirpenfro.cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle